Mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn cyhuddo Llywodraeth Geidwadol Prydain o “siglo lan a lawr dros y lle i gyd” heb angor wrth ymateb i’r argyfwng economaidd yn sgil y coronafeirws.
Mae’n cyhuddo’r prif weinidog Boris Johnson o “anallu parhaus” wrth geisio mynd i’r afael â’r sefyllfa.
Roedd yn annerch cynhadledd rithiol y Blaid Lafur wrth wneud y sylwadau.
“Ar hyn o bryd, ymhlith fy mhryderon mae’r ffaith nad oes gan y Llywodraeth unrhyw angor,” meddai.
“Mae’n siglo lan a lawr dros y lle i gyd.”
Pecyn cymorth yng nghanol cyfyngiadau llym
Mae disgwyl i rannau o Loegr wynebu cyfyngiadau llym yr wythnos nesaf fel y rhai sydd eisoes yng Nghymru.
Ac mae Syr Keir Starmer wedi beirniadu’r pecyn cymorth i’r ardaloedd hynny a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor Rishi Sunak ddoe (dydd Gwener, Hydref 9).
“Mae’r cynllun a gafodd ei gyhoeddi ddoe yn mynd ychydig yn bellach, ond mae yna fylchau ynddo o hyd,” meddai.
“Ond dw i’n credu bod y Llywodraeth wedi colli golwg ar yr egwyddor greiddiol, sef fod y cyfyngiadau bob amser yn dod ochr yn ochr â chefnogaeth economaidd briodol.
“Pe bai dyna’r egwyddor drwyddi draw, fydden ni ddim yn y cawlach rydyn ni ynddo ar hyn o bryd.”
Profi ac olrhain
Mae hefyd yn cyhuddo Boris Johnson o ddefnyddio rhethreg wrth drafod y cynllun profi ac olrhain yn hytrach na sicrhau ei fod yn llwyddo.
“Mae profi, olrhain ac ynysu yn hanfodol,” meddai.
“Dywedodd y prif weinidog y byddai gennym system o safon fyd-eang – doedd dim angen hynny arnom, dim ond un effeithiol sy’n gweithio.
“Rhethreg Johnson yw ’safon fyd-eang’.”
Troeon pedol
Ac mae e wedi cyhuddo Boris Johnson a’i lywodraeth o “13 neu 14 o droeon pedol”.
“Pe bai’n un neu ddau, dw i’n credu y byddai nifer o bobol ledled y wlad, pe bai’r llywodraeth wedi gwneud camgymeriad ac wedyn gwneud tro pedol, yn dweud, ‘iawn, digon teg, rydyn ni’n ymdrin â phandemig’.
“Ond pan fo gyda chi 12, 13 neu 14 o droeon pedol, yr unig beth y gallwch chi gymryd o hynny yw anallu parhaus.”