Mae cyfyngiadau lleol wedi eu hymestyn am o leiaf wythnos arall yng Nghaerffili.

Dyma oedd yr ardal gyntaf yng Nghymru i gyflwyno cyfyngiadau o’r fath – mae Caerffili dan gyfyngiadau lleol ers Medi 8.

Mae ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dangos bod 60.2 o achosion am bob 100,000 o’r boblogaeth yn y sir dros y saith diwrnod diwethaf.

‘Wythnos dra gwahanol’

Dywedodd arweinydd Cyngor Caerffili, Philippa Marsden, a’r prif weithredwr Christina Harrhy fod pethau wedi newid yr wythnos yma.

“Yr wythnos ddiwethaf roedden ni’n dawel hyderus ein bod yn gweld golau ym mhen draw’r twnnel, ond mae’r wythnos yma wedi bod yn dra gwahanol.

“Rydym wedi gweld cynnydd mewn achosion lleol ar draws y fwrdeistref sirol, gan gynnwys nifer yn gysylltiedig gyda chlybiau preifat.”

‘Heb allu cael y lefel i lawr’

“Rydym wedi gweld gostyngiad yng Nghaerffili ers i gyfyngiadau cael eu cyflwyno”, meddai’r gweinidog iechyd, Vaughan Gething, wrth BBC Radio Wales.

“Ond mae’r lefelau yn parhau yn weddol uchel. Nid ydym wedi gallu cael y lefel yma i lawr, ac i aros lawr o dan 50, mae’n parhau o gwmpas 50 o achosion pob 100,000.”