Mae Cyngor Gwynedd wedi penderfynu symud ar frys i edrych ar y posibilrwydd o godi tâl ar dwristiaid sy’n ymweld â Pharc Cenedlaethol Eryri, ac yn benodol yr Wyddfa.

Yng nghyfarfod diweddar o’r cyngor llawn, dywedodd y Cynghorydd Glyn Daniels:  “Rwy’n cynnig fod Cyngor Gwynedd, mewn cydweithrediad â Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r Parc, yn arbennig felly ar, ac o amgylch, yr Wyddfa ei hun.

“Byddai codi tâl sylweddol am gael mynd i gopa’r Wyddfa yn gallu chwyddo coffrau Cyngor Gwynedd a’r Parc ar adeg pan mae ansicrwydd economaidd yn ein hwynebu oherwydd effeithiau Covid-19.

“Mae lle i gredu y buasai camau o’r fath yn gallu cyfrannu at leihau’r problemau difrifol o ormodedd o geir yn cronni ac yn creu tagfeydd a pheryglon ar ffyrdd y cylch.”

Roedd Glyn Davies wedi galw am godi ffi ar ymwelwyr i ddringo’r Wyddfa eisoes, gan ddweud ddeufis yn ôl y byddai modd casglu miloedd o bunnau wrth godi cyn lleied â phunt yr un ar ymwelwyr.

“Ddim yn gyfreithiol i godi ffi” – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Roedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n cynnal yr Wyddfa, wedi ymateb i Glyn Davies drwy ddweud na fyddai hi’n “gyfreithiol i godi ffi.”

“Rydym yn croesawu’r angen am drafodaeth genedlaethol am sut rydym yn cynnal a gwella rheoli ymwelwyr ac isadeiledd megis parcio a thrafnidiaeth,” meddai llefarydd ar ran yr Awdurdod.

Dyw’r Ceidwadwyr Cymreig ddim o blaid codi ffi ar ymwelwyr chwaith, gan ddweud y byddai’n “tanseilio ymdrechion i adfer yr economi.”

Galw am ei gwneud hi’n orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ haf

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi penderfynu galw ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud hi’n orfodol cael hawl cynllunio i drosi tŷ annedd yn dŷ haf.

Daeth y cynnig hwn gan y Cynghorydd Gruffydd Williams.

Dywedodd ei fod am weld “Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid y Ddeddf Gynllunio fel ei bod yn /uned wyliau, ac yn addasu’r fframwaith bolisi i ganiatáu gosod trothwyon o ran uchafswm niferoedd o dai haf mewn unrhyw ardal i ffigur na ddylai fod yn uwch nag oddeutu 5% o’r stoc dai.”