Mae un o gynghorwyr sir Gwynedd yn awyddus i weld ymwelwyr yn talu ffi i ddringo’r Wyddfa.
Bob blwyddyn, mae bron i hanner miliwn o bobol yn dringo’r Wyddfa ac yn yr wythnosau diwethaf, mae gofidion wedi codi ynghylch parcio a sbwriel yno.
Dywed y Cynghorydd Glyn Daniels, sy’n cynrychioli ward Diffwys a Maenofferen Ffestiniog, y byddai modd casglu swm chwe ffigwr wrth godi cyn lleied â £1 yr un ar ymwelwyr.
“Nid yn unig byddai hyn yn codi arian i’r Cyngor a Pharc Eryri, byddai hefyd yn cyfrannu i adeiladu meysydd parcio newydd, gan leihau nifer y cerbydau sy’n parcio’n anghyfreithlon yn yr ardal,” meddai.
“Byddwn hefyd yn pwysleisio bod nifer o wledydd eraill wedi cyflwyno’r mathau yma o bolisïau, megis y Swistir, Canada a Seland Newydd.”
“Ddim yn gyfreithiol i godi ffi” – Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n cynnal y mynydd, y dweud na fyddai hi’n “gyfreithiol i godi ffi.”
“Rydym yn croesawu’r angen am drafodaeth genedlaethol am sut rydym yn cynnal a gwella rheoli ymwelwyr ac isadeiledd megis parcio a thrafnidiaeth,” meddai llefarydd.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi cyhoeddi nad ydyn nhw o blaid codi ffi ar ymwelwyr chwaith, gan ddweud y byddai’n “tanseilio ymdrechion i adfer yr economi.”
Codi pris parcio yn “syniad gwell” – Kevin Morris Jones
Mae Kevin Morris Jones, Cynghorydd Annibynnol dros ward Llanberis, wedi dweud wrth golwg360 y byddai’n well ganddo weld pris parcio yn codi na chodi ffi i ddringo’r Wyddfa.
Dywed y byddai modd buddsoddi’r arian mewn rhagor o feysydd parcio er mwyn lliniaru problem traffig a pharcio’r ardal.
“Y broblem efo codi ffi ar ymwelwyr i ddringo’r Wyddfa ydi sut wyt ti’n mynd ati i’w blismona fo?” meddai.
“Dw i’n meddwl y basa fo’n syniad gwell codi pris parcio yma, oherwydd mae yna domen o bobol dod yma i gerdded ac yn cymryd y meysydd parcio i gyd, gan rwystro pobol rhag gwario arian yn y pentref.
“A dyw’r broblem traffig a pharcio ddim ond yn gwaethygu felly mae’n rhaid gwneud rhywbeth am y peth a basa modd defnyddio’r arian fasa’n dod o godi pris parcio i wneud hynny.”