Mae myfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datblygu ap newydd sydd yn hwyluso’r defnydd o drenau a bysiau yn sgil y coronafeirws.

Gall yr ap – a gafodd ei greu gan Lucy Henley, Timothy Ostler a Josh Moore, sy’n fyfyrwyr PhD Mathemateg – gael ei ddefnyddio gan gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus neu gan deithwyr i ddewis sedd ddiogel i eistedd ynddi.

Mae’r ap yn cyfrifo’r nifer uchaf o bobol all eistedd mewn cerbyd ar y tro.

Mae hefyd yn cyfrifo allyriadau carbon sydd yn caniatáu i deithwyr deithio yn y ffordd fwyaf eco-gyfeillgar.

‘Arbed arian i gwmnïau’

Fel yr eglura Timothy Ostler, gall yr ap arbed arian sylweddol i gwmnïau bysiau a threnau.

“Wrth i fesurau gael eu llacio, bydd cynnydd yn y galw am drafnidiaeth gyhoeddus”, meddai.

“Os yw’r gwasanaethau hyn yn cael eu defnyddio heb ychwanegu mwy o fesurau diogelwch, gallai trenau a bysiau weithredu ar golled ariannol sylweddol, gan hefyd niweidio’r amgylchedd.”

Ychwanegodd Josh Moore fod trafnidiaeth gyhoeddus arferol yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd gan fod yr allyriannau a gynhyrchir fesul teithiwr yn llawer is.

“Ond oherwydd rheolau ymbellhau cymdeithasol, a chan dybio bod unrhyw seddi heb eu llenwi yn cyfateb i gymudwr sy’n gyrru i’r gwaith, mae trafnidiaeth gyhoeddus sy’n cael eu pweru gan ddisel yn cynhyrchu mwy o allyriadau C02 fesul teithiwr na char bach”, meddai.

Gan ddefnyddio trên injan diesel sy’n boblogaidd yn Ne Cymru fel enghraifft, cyfrifodd y myfyrwyr y byddai angen 17 teithiwr y cerbyd ar y trên i’w wneud yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd na char bach.

Fodd bynnag, gan ddilyn rheolau ymbellhau cymdeithasol, 16 o deithwyr y byddai’n gallu eistedd yn y cerbyd ar unwaith.

Effaith sgriniau plastig

Eglurodd y myfyrwyr mai un o fuddion yr ap yw y gellir gweld effaith mesurau pellhau cymdeithasol eraill fel sgriniau plastig.

Gyda sgriniau plastig byddai 38 o deithwyr o bobol yn gallu eistedd yn y cerbyd gan ei wneud yn opsiwn mwy ecogyfeillgar.

“Mae’r cyfrifiad yn gweithio trwy geisio llenwi teithwyr o gefn y trên, gan roi’r teithiwr cyntaf yn y sedd gyntaf”, eglurodd Lucy Henley.

“Yna mae’r ap yn creu cylch pellter cymdeithasol o amgylch y teithiwr. Ni ellir defnyddio seddi eraill sydd y tu mewn i’r cylch a rhoddir y teithiwr nesaf yn y sedd nesaf sydd ar gael.

“Ailadroddir y broses hon nes bod yr holl seddi naill ai wedi’u llenwi neu eu dynodi’n wag.

“Gelwir hyn yn algorithm barus – nid yw’n ystyried pob sedd ar yr un pryd, dim ond dewis y sedd nesaf sydd ar gael.”

Ennill y wobr gyntaf mewn ‘Hackathon’

Cafodd yr ap ei ddylunio gan y tri myfyriwr PhD fel rhan o gystadleuaeth genedlaethol ‘Hackathon’ Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) i ddod o hyd i atebion i broblemau cymdeithasol ar ôl Covid-19.

Treuliodd y myfyrwyr bum niwrnod yn creu’r ap, gan fynd ymlaen i ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth a chipio gwobr o £3,000.

Mae’r ap yn ffynhonnell agored ac mae’r myfyrwyr yn gobeithio ei ymestyn i gynnwys gwahanol gerbydau o wahanol feintiau.

Yn y pendraw, y gobaith yw caniatáu i deithwyr fewnbynnu eu seddi er mwyn i’r ap eu cynghori nhw pa sedd yw’r un fwyaf diogel.