Mae’r awdurdodau yn nhalaith Victoria yn Awstralia yn gorfodi busnesau i gau eto yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws.

Bydd busnesau nad ydyn nhw’n cynnig gwasanaethau hanfodol yn cau yn ninas Melbourne o yfory (dydd Mercher, Awst 5).

Cafodd argyfwng ei gyhoeddi yn y dalaith ddydd Sul (Awst 2), gyda chyrffiw nos yn ei le am chwe wythnos.

Gallai’r cyfyngiadau olygu bod 250,000 o swyddi’n cael eu colli, yn ôl amcangyfrifon.

Fe ddaw yn dilyn 429 o achosion newydd, a 13 o farwolaethau dros gyfnod o 24 awr, a’r dyfalu yw y bydd cannoedd o achosion newydd bob dydd pe na bai’r cyfyngiadau’n dychwelyd.

Yn ôl y prif weinidog Scott Morrison, fe fydd gan weithwyr yr hawl i dderbyn 1,500 o ddoleri pe bai angen iddyn nhw hunanynysu am 14 diwrnod ac os nad ydyn nhw’n derbyn tâl salwch.