Mae peryglon nofio mewn dŵr agored wedi cael eu hamlygu ar ôl i ymgyrch achub aml-asiantaeth gael ei gynnal yn Aberystwyth ym mis Gorffennaf, pan gafodd bachgen naw oed ei sgubo i ffwrdd a’i fam yn ceisio ei achub.

Diolch i ymdrechion Heddlu Dyfed-Powys, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwylwyr y Glannau, RNLI, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Ambiwlans Awyr Cymru a hofrennydd milwrol, daethpwyd o hyd i’r fam a’r mab cyn iddyn nhw gael unrhyw niwed.

Mae neges ddiogelwch ar y cyd bellach wedi ei chyhoeddi yn gofyn i bobol gymryd rhagofalon cyn nofio mewn afonydd neu’r môr gan y gall fod peryglon cudd.

Yr alwad

Roedd Delme Rees, Arolygydd Heddlu Dyfed-Powys, ar ddyletswydd yn Aberystwyth pan dderbyniodd y llu alwad gan y gwylwyr ar brynhawn Gorffennaf 22 yn gofyn am gymorth.

“Roedd yn un o’r galwadau hynny lle mae eich calon yn suddo,” meddai.

“Roedd Gwylwyr y Glannau wedi mynd at y bont dros afon Rheidol gan fod bachgen naw mlwydd oed wedi cael ei olchi i lawr yr afon wrth nofio gyda’i deulu, ac wedi mynd allan o’r golwg.

“Mae’r afon yn rhedeg tu ôl i orsaf heddlu Aberystwyth, ac fe allen ni weld y dŵr yn eithaf uchel ac yn llifo’n gyflym.

“Fe wnaethom leoli ein holl swyddogion ymateb, timau plismona cymdogaeth, swyddogion CID a safleoedd troseddau yn yr ardal yr oedd y teulu wedi bod yn nofio ynddi, yn ogystal â’r tair pont sy’n croesi’r Afon Rheidol i geisio dod o hyd i’r bachgen bach.”

Roedd cydweithwyr o’r holl wasanaethau brys yn gorchuddio glannau’r afon mewn ymgais i ddod o hyd i’r plentyn coll.

Allai swyddogion yr heddlu ddim dod o hyd i unrhyw un mewn trafferthion, a doedd dim modd cysylltu â’r person a wnaeth yr alwad 999.

Roedd y pryder yn dwysau wrth i dimau ymateb ddeall bod y fam wedi mynd i mewn i’r dŵr ar ôl ei mab, ac nad oedd wedi’i gweld ers hynny chwaith.

Mynd o ddrwg i waeth

“Roedd yn troi i’r sefyllfa waethaf posibl,” meddai Delme Rees.

“Roeddem yn wynebu mam a mab mewn helynt yn y dŵr, ac o fewn munudau yn sylweddoli bod y tad hefyd ar goll.”

Diolch i adleoli personél y gwasanaeth tân i leoliad ymhellach i fyny’r afon, daethpwyd o hyd i’r fam a’i mab ymysg tyfiant gan swyddogion achub dŵr a oedd yn chwilio’r afon.

Doedd y lleoliad ddim yn weladwy i’r rhai oedd ar y lan, ac er bod y pâr yn ffodus o allu cadw eu hunain i ffwrdd o’r cerrynt, doedden nhw ddim yn gallu cael eu hunain allan o’r dŵr oherwydd y clawdd uchel a llystyfiant.

Fe gymerodd hi tua 45 munud i’w cael nhw allan oherwydd llif a dyfnder yr afon, cyn iddyn nhw gael eu trosglwyddo i’r ambiwlans, a daethpwyd o hyd i dad y plentyn yn ddiogel hefyd yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd y fam a’r mab ofal yn yr ysbyty, ac er iddyn nhw gael eu hysgwyd, doedden nhw ddim wedi dioddef unrhyw anafiadau na chyflyrau meddygol o ganlyniad i’r digwyddiad.

Peryglon nofio gwyllt

Mae’r ymgyrch yn ein hatgoffa o beryglon nofio gwyllt, ac mae pobol yn cael eu hannog i gymryd gofal cyn mynd i mewn i afonydd neu’r môr.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cydweithio â’r awdurdod lleol, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI i roi arwyddion a mesurau diogelwch dŵr yn yr ardal mewn ymgais i leihau digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Mae Gwylwyr y Glannau wedi cynnig cyngor i unrhyw un sy’n bwriadu nofio mewn dŵr agored dros yr haf, gan annog pobl i “feddwl yn gyntaf”.

“Mae’n hawdd cael eich dal allan hyd yn oed os ydych chi’n nofiwr profiadol,” meddai llefarydd.

“Peidiwch â nofio ar eich pen eich hun, peidiwch â chymryd dingis i’r môr a chadwch lygad barcud ar ffrindiau a theulu pan fyddwch yn ymweld â’r arfordir yr haf hwn.