Mae calonnau wedi eu paentio ar dir ger Llandrindod ym Mhowys er mwyn annog pobol i fwynhau’r awyr agored a chadw pellter cymdeithasol.
Mae’r cynllun yn rhan o Brosiect Gweithio Gyda’n Gilydd Llandrindod.
“Gall yr ynysu yn sgil y cloi mawr a’r gofyn i gadw pellter cymdeithasol fod yn her wirioneddol i bobol,” meddai Ellie Turner, sy’n gweithio i Elusen Chwarae Maesyfed, sy’n arbenigo mewn datblygiad a lles plant a phobl ifanc.
“Mae’r gwaith celf hwn yn creu lle hwyliog a chyfeillgar i bobl dreulio amser gyda’i gilydd ac i fwynhau’r awyr agored sydd mor llesol i iechyd a lles pobol.
“Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Gyngor Sir Powys am eu hagwedd bositif tuag at wneud i hyn ddigwydd ac am fod mor gefnogol i’r prosiect cyfan.”
Daeth y syniad am y calonnau o waith celf tebyg ym Mryste, a oedd hefyd yn annog pobol i ddychwelyd i fannau gwyrdd cyhoeddus.
‘Mwynhau’r awyr iach’
“Mae’n wych gweld prosiect yn cael ei gyflwyno i gefnogi teuluoedd a’r gymuned gyfan yn Llandrindod ar yr adeg anodd hon,” meddai’r Cynghorydd Rachel Powell, Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Bobol Ifanc a Hamdden.
“Mae cael pobol allan ac yn mwynhau awyr iach, y mannau hardd yr ydym mor lwcus i’w cael yma yn Llandrindod a chwmni ei gilydd mewn ffordd ddiogel a chadarnhaol yn gam positif iawn ar gyfer dyfodol ein bywyd cymunedol.”