Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud bod busnesau ledled Cymru yn destun balchder iddo.
Daw ei sylwadau yn dilyn ymweliad â bwyty Page’s yng Nghwmbrân ddoe (dydd Llun, Awst 3), wrth i dafarndai, caffis a bwytai gael agor y tu mewn yng Nghymru am y tro cyntaf ers mis Mawrth.
“Mae’r holl fusnesau ledled Cymru yn destun balchder i mi,” meddai’r Prif Weinidog.
“Maen nhw wedi dangos gofal a gwytnwch ac wedi addasu yn yr amseroedd rhyfedd hyn.
“Rwy’n gwybod nad yw wedi bod yn hawdd.
“Mae’r dull gofalus a gymerwyd gennym yng Nghymru, a’r gofal a gymerwyd gan bobol yn ein cymunedau, yn golygu bod achosion y coronafews yn parhau i ddisgyn yma yng Nghymru.
“Rwy’n gofyn i bawb barhau i fod yn bwyllog ac yn ofalus. Pan ewch chi i fwynhau rhai o’r pethau sydd bellach ar agor, fel bwyta yn eich hoff fwyty lleol, cadwch eich hun ac eraill yn ddiogel trwy olchi’ch dwylo’n rheolaidd a chadw pellter dau fetr.
“Rydw i wedi bod yn edrych ymlaen at fwyta y tu mewn i fwyty Page’s ers amser hir, ac rwy’n falch o ddweud nad oedd y sglodion wedi fy siomi!”
Beth sydd wedi newid?
Yn ogystal â thafarndai, caffis a bwytai, roedd lawntiau bowlio dan do, tai ocsiwn a neuaddau bingo yn cael agor ddoe.
Hefyd, mae hyd at 30 o bobol yn cael cyfarfod yn yr awyr agored a fydd plant dan 11 oed ddim yn gorfod cadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion.
Os yw’r coronafeirws yn parhau o dan reolaeth, mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd canolfannau hamdden, pyllau nofio ac ardaloedd chwarae dan do yn cael agor ar Awst 10.