Mae cwmni Oxford Nanopore wedi cyhoeddi cytundeb gydag Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Deyrnas Unedig, i gyflwyno prawf newydd.

Yn ôl llefarydd ar ran Oxford Nanopore Technologies, bydd hyn yn “cefnogi ymdrechion y Deyrnas Unedig i reoli’r gostyngiad parhaus o ran achosion newydd, nawr a thrwy dymor y ffliw a’r oerfel yn ystod y gaeaf.”

O dan y cytundeb, bydd profion cychwynnol ar gael i’w defnyddio gan nifer o labordai profi’r Gwasanaeth Iechyd.

Pathogenau lluosog

Yn ogystal â phrawf ar gyfer SARS-CoV-2, sef y feirws sy’n achosi Covid-19, mae Oxford Nanopore yn datblygu prawf ar gyfer pathogenau lluosog o fewn un sampl, gan gynnwys Ffliw A, Ffliw B, Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) a SARS-CoV-2.

Bwriad hyn yw caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol wahaniaethu rhwng yr heintiau hyn, rheoli’r pwysau disgwyliedig ar y Gwasanaeth Iechyd yn ystod y gaeaf yn well, a llywio iechyd y cyhoedd a’r rheolaeth glinigol o’r clefydau hyn ar adeg o bwysau uwch ar y Gwasanaethau Iechyd.

‘Newid y gêm’

Mae’r datblygiad wedi’i groesawu gan y Ceidwadwyr Cymreig.

“Bydd cyflwyno’r profion hyn yn newid y gêm go iawn ar draws y Deyrnas Unedig,” meddai’r llefarydd Iechyd Andrew RT Davies.

“Bydd yn helpu i gryfhau’r ymateb coronafeirws y gaeaf hwn, gan roi’r gallu i glinigwyr a’r Gwasanaeth Iechyd wahaniaethu rhwng achosion Covid-19, sydd â gofynion hunanynysu penodol, a feirysau gaeaf eraill.

“Y cynharaf y gallwn wahaniaethu rhwng y coronafeirws a’r ffliw tymhorol – a rhybuddio pobol – y mwyaf parod fyddwn ni ar gyfer unrhyw ymchwydd yn y gaeaf.”