Mae angen ail edrych ar faint Tŷ’r Arglwyddi, yn ôl prif Weithredwr y Gymdeithas Diwygio Seneddol (ERS).
Mae 36 o Arglwyddi newydd yn cynyddu’r nifer i dros 800, ar gost debygol o £1.1m y flwyddyn yn seiliedig ar yr hawliad cyfartalog am dreuliau, meddai’r ERS.
Fel arfer, gall Arglwyddi hawlio £323 y diwrnod yn ddi-dreth – am weddill eu hoes – am fewngofnodi i Dy’r Arglwyddi.
“Allwch chi ddim honni eich bod am fynd i’r afael â maint Tŷ’r Arglwyddi tra ar yr un pryd yn ei llenwi o ffyddloniaid, rhoddwyr a chyn-Aelodau Seneddol,” meddai Darren Hughes, prif weithredwr yr ERS, wrth sôn am lefarydd y prif weinidog Boris Johnson yn dweud bod angen rhoi sylw i nifer yr Arglwyddi.
Ethol yn deg
“Os yw’r Prif Weinidog o ddifrif ynghylch mynd i’r afael â maint y Siambr chwyddedig, rhaid iddo gynnal trafodaethau trawsbleidiol i ailwampio’r Tŷ anetholedig o’r diwedd a rhoi’r Siambr y mae pleidleiswyr yn ei haeddu, wedi’i hethol yn deg,” meddai wedyn.
“Mae gan brif weinidogion ymdeimlad di-ddiwedd o hawl pan ddaw’n fater o stwffio’r Arglwyddi gyda’u cynghreiriaid.
“Heb weithredu, mae’r sylwadau diweddaraf o Rhif 10 yn edrych fel rhagrith, gan fod dicter dros y penodiadau o gyfeillgarwch hyn yn parhau i dyfu.”