Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol, wedi cyhoeddi bod Cynnig Gofal Plant Cymru yn mynd i ailagor, gan ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal i blant tair a phedair oed ledled Cymru sydd â’u rhieni’n gweithio.
Cafodd y Cynnig Gofal Plant ei atal dros dro fis Ebrill er mwyn gallu canolbwyntio adnoddau ar anghenion gofal plant gweithwyr hanfodol a phlant bregus drwy Gynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, ar wythnos olaf y tymor ysgol, roedd ychydig dros 9,000 o blant yn manteisio ar y cynllun hwn.
Derbyn ceisiadau newydd
Wrth i Gymru gymryd camau i lacio’r cyfyngiadau ymhellach, ac wrth i ysgolion baratoi i ailgydio o fis Medi, bydd y Cynnig yn dechrau derbyn ceisiadau o’r newydd, gan alluogi teuluoedd i fanteisio ar y gofal plant.
Bydd modd i rieni a fyddai wedi bod yn gymwys i fanteisio ar y Cynnig yn ystod tymor yr haf, ond a gollodd dymor cyfan am nad oedden nhw wedi dechrau defnyddio’r Cynnig cyn y pandemig, gyflwyno eu ceisiadau o ganol Awst.
Caiff ceisiadau gan rieni y bydd eu plentyn yn gymwys ar gyfer y Cynnig yn yr hydref eu hystyried o ddechrau Medi ymlaen.
Yn debyg i’r hyn oedd yn wir cyn Covid-19, bydd awdurdodau lleol hefyd yn gallu manteisio ar y Grant Cymorth Ychwanegol i sicrhau bod unrhyw blentyn sydd ag anghenion ychwanegol yn gallu elwa ar y Cynnig yn yr un ffordd â phlant eraill.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer lleoliadau gofal plant ar sut y gallan nhw weithredu’n ddiogel, gan ystyried cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru ddydd Gwener (Gorffennaf 31) nad oes angen i blant o dan 11 oed gadw pellter cymdeithasol.
Cefnogi teuluoedd
“Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid yn ystod yr wythnosau diwethaf i ymchwilio i’n hopsiynau wrth ailgychwyn y Cynnig,” meddai Julie Morgan.
“Rwy’n teimlo’n ddyledus dros ben, yn enwedig i awdurdodau lleol, am y ffordd y maen nhw wedi ymateb i heriau’r misoedd diwethaf, gan weinyddu Cynllun Cymorth Gofal Plant y Coronafeirws a chefnogi teuluoedd yn eu hanghenion amrywiol iawn a chymhleth yn aml.
“Mae darparwyr gofal plant wedi bod yn wych hefyd, a llawer ohonyn nhw wedi cadw’u drysau ar agor tra roedd y feirws ar ei waethaf er mwyn sicrhau bod gweithwyr hanfodol yn gallu cyfrannu’n effeithiol at yr ymdrechion cenedlaethol yn erbyn y pandemig.
“Bydd llawer o deuluoedd wedi dioddef caledi ariannol yn sgil Covid-19.
“Bydd rhai gweithwyr wedi’u taro’n waeth nag eraill, a gwyddom fod gofal plant, i lawer o fenywod, wedi bod yn rhwystr gwirioneddol o ran eu capasiti i weithio.
“Bydd ailgyflwyno’r Cynnig yn help i rieni, ond hefyd mae’n hollbwysig i ddarparwyr fel busnesau sy’n ceisio dod dros cyfnod o ansicrwydd a phryder mawr i lawer.”