Mae arweinwyr cynghorau ardaloedd gwledig Cymru wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi “rhwyd ddiogelwch” yn ei lle i ddisodli cronfeydd a safonau’r Undeb Ewropeaidd.

Mewn cyfarfod o Fforwm Gwledig Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yr wythnos ddiwethaf, mynegodd arweinwyr cyngor eu pryderon am y posibilrwydd o ddod i ddiwedd y cyfnod pontio heb ddod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r arweinwyr wedi galw am gefnogaeth i’r sector amaeth, bwyd a diod, a thwristiaeth a lletygarwch.

‘Dim llawer o amser ar ôl’

“Gydag ond pum mis i fynd tan i’r cyfnod pontio ddod i ben, does dim llawer o amser ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig amlinellu i gymunedau gwledig sut y bydd eu buddiannau’n cael eu hamddiffyn wrth i ni adael yr UE,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd a chyd-gadeirydd Fforwm Wledig CLlLC.

“Mae angen sicrwydd ar ein cymunedau ni y bydd angen rhwyd diogelwch mewn lle o ran cyllid, polisi, deddfwriaeth a rheoliadau, i amddiffyn cymunedau gwledig rhag y newid trawsnewidiol wrth i ni adael yr UE.

“Mae ardaloedd gwledig wedi buddio o’r trefniadau sydd wedi bod mewn grym dros y 40 mlynedd diwethaf.

“Maen nhw wedi galluogi ein ffermwyr ni i allforio eu cynnyrch heb unrhyw dollau neu wiriadau cymhleth.

“Mae’n hollbwysig bod bargen fasnach rydd gynhwysfawr yn cael ei tharo gyda’r UE, fel y gall ein ffermwyr a busnesau barhau i fuddio o fynediad ddi-ffrithiant i farchnad yr UE.”

‘Cymunedau gwledig angen cefnogaeth’

Cafodd y neges ei hategu gan Rosemarie Harris, arweinydd Cyngor Sir Powys, sydd hefyd yn gyd-gadeirydd Fforwm Wledig CLlLC.

“Mewn cyfnod ble’r ydyn ni i gyd hefyd yn ymrafael i ddeall yn llawn effeithiau pellgyrhaeddol yr argyfwng presennol ar fywyd gwledig yn y tymor hir, nawr yn fwy nag erioed, mae trigolion mewn cymunedau gwledig angen cefnogaeth,” meddai.

Eglurodd ei bod hi’n awyddus i weld cymunedau gwledig “llewyrchus a ffyniannus” yng Nghymru.

“Ond gallwn ni ond gyflawni hynny trwy fuddsoddi mewn gweledigaeth feiddgar, hir dymor i Gymru wledig, a dealltwriaeth glir ar bob lefel o’u hanghenion unigryw,” meddai.

“Dyna pam ein bod ni’n awyddus i symud gwaith ymlaen i ddatblygu gweledigaeth hir dymor i Gymru wledig gyda phartneriaid allweddol yn y cyfnod allweddol yma i’n cymunedau a busnesau gwledig i lywio Cynllun Adfer Gwledig i Gymru.

“Rydyn ni hefyd yn datblygu ein gofynion allweddol i lywodraethau’r Deyrnas Unedig a Chymru yn nhermau’r gefnogaeth sydd ei hangen ar unwaith i gynnal a magu’r gwytnwch sydd ei angen yn ein cymunedau gwledig i ddelio â goblygiadau’r posibilrwydd o adael heb fargen, yr argyfwng newid hinsawdd a goblygiadau parhaus yr argyfwng COVID-19 i’n cymunedau gwledig.”