Mae trigolion Sbaen yn parhau i geisio dyfalu i ble’r aeth y cyn-frenin Juan Carlos ar ôl gadael y wlad yn sgil sgandal ariannol.

Mewn llythyr ar wefan y teulu brenhinol ddoe (dydd Llun, Awst 3), dywedodd wrth ei fab, y Brenin Felipe VI ei fod yn gadael Sbaen yn sgil “goblygiadau cyhoeddus rhai penodau yn fy mywyd preifat yn y gorffennol”.

Mae’n destun ymchwiliadau yn Sbaen a’r Swistir.

Ond dydy e na’r teulu brenhinol ddim yn dweud yn gyhoeddus i ble mae e’n bwriadu mynd.

Mae rhai adroddiadau’n awgrymu ei fod e wedi teithio i Weriniaeth Dominica trwy Bortiwgal, ond mae adroddiadau eraill yn dweud ei fod e am aros yn ninas Porto.

Yn ôl eraill, fe allai fod yn Ffrainc neu’r Eidal.

Cefndir

Daeth Juan Carlos i rym yn 1975 yn dilyn marwolaeth Franco.

Ond fe ddaeth ei gyfnod wrth y llyw i ben yn 2014, ac mae rhai pobol yn galw am ddiddymu’r frenhiniaeth yn sgil y sgandal.

Mae plaid Unidas Podemos yn galw am ddadl ar ddyfodol y wlad, gan alw am y posibilrwydd o greu gweriniaeth.

Ond mae’r Blaid Sosialaidd wedi datgan eu cefnogaeth i’r brenin, er eu bod yn beirniadu ymddygiad ei dad.