Mae rheolwr cartref gofal i oedolion wedi ei thynnu oddi ar y Gofrestr Gweithwyr Gofal Cymdeithasol wedi i wrandawiad Gofal Cymdeithasol Cymru benderfynu bod ei haddasrwydd i ymarfer wedi’i amharu oherwydd camymddwyn difrifol.

Ym mis Ionawr 2019, fe wnaeth aelodau staff mewn cartref gofal yng Nghaerdydd fynegi pryderon am ymddygiad Debra Lewis, a oedd wedi rheoli’r cartref i oedolion â dementia ers pedair blynedd a mwy.

Ystyriodd y gwrandawiad ddatganiadau gan saith o dystion, yn cynnwys chwe aelod staff a rheolwr mewn cartref arall a ymchwiliodd i’r honiadau, a ddisgrifiodd diwylliant o feio a bwlio yn y cartref.

‘Amhriodol ac ymosodol’

Cafodd Debra Lewis ei chyhuddo o ymddwyn yn amhriodol ac o fwlio aelodau staff, gyda mwy nag un tyst yn disgrifio digwyddiadau lle’r oedd hi wedi siarad ag aelodau staff mewn ffordd ddigywilydd ac ymosodol, gan beri gofid iddyn nhw.

Clywodd y gwrandawiad hefyd fod Debra Lewis wedi ymddwyn yn amhriodol tuag at ddau o breswylwyr y cartref, gan beri cryn ofid iddyn nhw.

Mewn un digwyddiad, gwaeddodd ar breswylydd, gan ddweud wrthi ei bod am ei symud o’r cartref. Mewn digwyddiad arall, fe wnaeth ymddwyn yn amhriodol ac ymosodol tuag at breswylydd nad oedd am ddefnyddio’r lifft grisiau.

Rhoddodd Debra Lewis gyfarwyddiadau i gyfyngu’r ddarpariaeth neu’r dewis o fwyd ar gyfer preswylwyr, gan ddweud wrth aelodau staff i beidio â rhoi bisgedi iddyn nhw gyda’u te ac i roi’r gorau i roi ffrwyth yn yr ystafell fwyta.

Cafodd aelodau staff gyfarwyddyd hefyd i leihau maint dognau bwyd preswylwyr.

‘Torri egwyddorion sylfaenol’

Ar ôl ystyried y dystiolaeth, penderfynodd y panel fod addasrwydd Debra Lewis i ymarfer wedi’i amharu ar hyn o bryd oherwydd camymddwyn difrifol.

Gan egluro’r penderfyniad, dywedodd y panel eu bod nhw “wedi dod i’r casgliad bod Ms Lewis wedi ymddwyn mewn ffordd ymosodol a digyfaddawd tuag at staff a phreswylwyr, a’i bod wedi rheoli’r cartref gyda diwylliant nad oedd yn iach o gwbl”.

“Rydym ni wedi dod i’r casgliad fod Ms Lewis wedi torri egwyddorion sylfaenol gofal cymdeithasol drwy fethu â modelu ymddygiad gofalgar i’w haelodau staff a thrwy drin preswylwyr y cartref mewn ffordd a oedd ar brydiau yn peri loes iddyn nhw neu mewn ffordd a oedd yn methu â pharchu eu hurddas,” meddai’r panel.

Penderfynodd y panel dynnu Debra Lewis oddi ar y Gofrestr, gan ddweud eu bod nhw “wedi penderfynu fod Gorchymyn Dileu yn angenrheidiol, yn briodol ac yn gymesur”.

“Rydym ni wedi dod i’r casgliad fod Debra Lewis wedi dangos diffygion dwfn yn ei hagwedd ers amser maith gan olygu fod y preswylwyr wedi cael niwed,” meddai’r panel wedyn.

Doedd Debra Lewis ddim yn bresennol yn y gwrandawiad undydd, a gafodd ei gynnal o bell yr wythnos ddiwethaf.