Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys, wedi canmol y cynnydd a wnaed mewn llysoedd ynadon lleol wrth iddyn nhw agosáu at lefelau arferol o wasanaeth yn dilyn effaith y coronafeirws.

Mae sicrhau bod lefelau arferol o wasanaeth yn dychwelyd mewn llysoedd yn hanfodol i ddioddefwyr, yn ôl Dafydd Llywelyn.

“Mae’n braf iawn clywed bod y Llysoedd Ynadon lleol yn Dyfed-Powys bellach yn agosáu at lefelau arferol o wasanaeth yn dilyn oedi mawr mewn achosion o ganlyniad i’r clo mawr a mesurau pellter cymdeithasol”, meddai.

“Mae sicrhau cefnogaeth effeithiol i ddioddefwyr wedi bod yn flaenoriaeth i mi fel Comisiynydd, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gwella o ddylanwad troseddau ar eu bywydau, ac yn ystod fy nghyfnod yn y Swyddfa rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu System Cyfiawnder Troseddol mwy effeithiol ac ymatebol.”

Cydlynu

Cafodd Dafydd Llywelyn ei ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys yn 2016.

Roedd wedi datgan ei fwriad i gael ei ailethol eleni, ond cafodd etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throsedd eu gohirio gohirio tan fis Mai y flwyddyn nesaf yn sgil y coronafeirws.

Yn dilyn gohirio’r etholiad, mae’r Comisiynydd wedi aros yn i swydd ac wedi bod yn cydlynu ymateb y System Cyfiawnder Troseddol i’r pandemig.

Ar ôl rhoi cynlluniau wrth gefn, fel llysoedd ychwanegol, ar waith i sicrhau bod y rhestr gyfan o achosion wedi’u clywed, mae llysoedd Ynadon lleol ymhlith y rhai cyntaf i ailddechrau lefelau arferol o wasanaeth.

‘Cymru ar y blaen’

Eglurodd Dafydd Llywelyn fod hyn yn dyst i lwyddiant cydweithio rhwng asiantaethau Cyfiawnder Troseddol lleol.

“Rwyf wedi bod yn gweithio’n agos gydag asiantaethau Cyfiawnder Troseddol lleol i sicrhau y gellir ailddechrau busnes arferol mor gyflym a diogel â phosibl i sicrhau’r gwasanaeth a’r canlyniadau gorau posibl i ddioddefwyr,” meddai.

“Mae’n ddealladwy bod datblygiadau yn Llys y Goron yn fwy cymhleth ond mae’r achosion wedi symud yn gyflym, gyda Chymru unwaith eto ar y blaen wrth ddatblygu darpariaeth llys ‘Nightingale’ mewn argyfwng.”