Mae Dafydd Llywelyn wedi datgan ei fwriad i gael ei ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ardal Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd ei ethol yn 2016.

Mae’n dweud iddo gynyddu nifer y staff a swyddogion, ailgyflwyno system camerâu cylch-cyfyng fodern ar draws yr heddlu a chynnal cyfraddau trethi isel sydd ymhlith yr isaf yng Nghymru.

“Rwy’n gobeithio y bydd y cyhoedd yn fy nghefnogi am dymor arall yn y swydd er mwyn i mi fedru cwblhau yr ailadeiladu rwyf wedi ei ddechrau,” meddai.

“Rwy’ wedi sicrhau bod mwy o swyddogion yr heddlu a staff ar gael i’r Prif Gwnstabl a bydd hyn yn parhau os caf fy ailethol.”

Ymdrin â Llinellau Siriol

Dywed Dafydd Llywelyn ei fod wedi buddsoddi mewn technoleg ac adnoddau sy’n ymwneud â throseddu ar-lein, yn ogystal â chael adnoddau i ddelio â Llinellau Sirol yn ystod ei bedair blynedd yn Gomisiynydd yr Heddlu.

“Mae Llinellau Sirol yn ffenomenon rydym wedi dod yn rhy gyfarwydd o lawer â chlywed amdanyn nhw, a dyna pam fy mod wedi darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer swyddogion arbenigol i fynd i’r afael â Llinellau Cyffuriau sydd wedi profi llwyddiannau mawr, gyda nifer o Grwpïau Trosedd Cyfundrefnol yn cael eu harestio gan yr Heddlu,” meddai.

Caiff etholiadau Comisiynydd yr Heddlu eu cynnal ar ddydd Iau (Mai 7).

Dafydd Llywelyn yw’r ymgeisydd cyntaf i gyhoeddi ei fod yn sefyll.