Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud y byddai codi ffi ar ymwelwyr i ymweld â’r Wyddfa yn “tanseilio ymdrechion i adfer yr economi” yng ngogledd Cymru.
Roedd Darren Millar o’r Ceidwadwyr Cymreig yn ymateb i gynnig i godi toll ar ymwelwyr i liniaru effaith twristiaeth ar ogledd-orllewin Cymru.
Fe fyddai’n golygu codi ffi ar bobol sy’n dringo’r Wyddfa ar droed neu ar y tren, gyda’r arian yn cael ei fuddsoddi mewn cyfleusterau i dwristiaid yn ogystal â chymunedau lleol sy’n cefnogi’r diwydiant.
Dywedodd y Cynghorydd Glyn Daniels, sy’n cynrychioli ward Diffwys a Maenofferen Ffestiniog, y byddai modd casglu swm chwe ffigwr wrth godi cyn lleied â £1 ar ymwelwyr.
“Nid yn unig byddai hyn yn codi arian i’r Cyngor a Pharc Eryri, byddai hefyd yn cyfrannu i adeiladu meysydd parcio newydd, gan leihau nifer y cerbydau sy’n parcio’n anghyfreithlon yn yr ardal.
“Byddwn hefyd yn pwysleisio bod nifer o wledydd eraill wedi cyflwyno’r mathau yma o bolisïau, megis y Swistir, Canada a Seland Newydd.”
“Syniad gwael”
Ond wrth ymateb i’r cynigion, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: “Mae hwn yn syniad gwael.
“Bydd pob punt sy’n cael ei godi yn bunt yn llai i bobol wario yn yr economi leol.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ar y diwydiant twristiaeth yng ngoledd Cymru a bydd codi ffi ar ymwelwyr i gael mynediad i leoedd megis y Wyddfa ddim ond yn tanseilio ymdrechion i’w adfer.”
Mae’r Wyddfa’n denu oddeutu 475,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae disgwyl i’r cynnig gael ei drafod yng nghyfarfod llawn y cyngor ym mis Hydref.