Mae aelod o Lywodraeth Cymru wedi brolio’r Sîn Roc Gymraeg a chwmni sy’n hyrwyddo’r caneuon ar y We.
Ers dwy flynedd bellach mae cwmni PYST wedi bod yn dosbarthu caneuon Cymraeg ar wahanol blatfforms ar-lein, ac mae’r caneuon Cymraeg hynny wedi eu ffrydio 25 miliwn o weithiau.
Sefydlwyd PYST yn 2018 a dyma’r gwasanaeth dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig cyntaf o’i fath yng Nghymru.
Ac mae’r Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ffan o waith y cwmni sy’n rhoi pop Cymraeg ar blatfformau megis Spotify, Apple, Amazon a Deezer.
“Mae cerddoriaeth anhygoel yn cael ei chreu yng Nghymru”, meddai Dafydd Elis-Thomas, AoS Dwyfor Meirionydd.
“Mae llwyddiant PYST yn golygu bod y gerddoriaeth yn fwy hygyrch nag erioed.
“Mae diddordeb a brwdfrydedd cynyddol mewn cerddoriaeth Gymraeg a Chymreig ac rwyf wrth fy modd ein bod yn medru cydweithio â PYST i annog a meithrin y diddordeb hwnnw.”
Yn ogystal â cherddoriaeth newydd, cydweithiodd PYST gyda nifer o labeli i sicrhau bod cerddoriaeth o’r gorffennol yn ymddangos ar y platfformau digidol fel ei fod ar gael i genedlaethau’r dyfodol.
PYST mewn ffigyrau:
- 75% o’r 25 miliwn o ffrydiau yn gerddoriaeth drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg;
- 70 o labeli yn defnyddio PYST;
- 300 o artistiaid wedi dosbarthu eu cerddoriaeth gan ddefnyddio PYST;
- Y gân Gymraeg gyntaf i gael ei ffrydio filiwn o weithiau oedd ‘Gwenwyn’ gan Alffa a ryddhawyd ar Recordiau Côsh – mae’r gân bellach wedi ei ffrydio dros 3 miliwn o weithiau;
- Fis Mawrth sefydlodd PYST blatfform digidol aml-gyfryngol diwylliannol AM.
“Braint ac ysbrydoliaeth”
“Yr hyn a symbylodd ffurfio PYST oedd y labeli recordiau oedd yn bodoli yng Nghymru”, meddai Nannon Evans, Rheolwr Marchnata PYST.
“Mae cydweithio yn agos gyda’r gymuned gynyddol honno o labeli dros ddwy flynedd wedi bod yn fraint ac ysbrydoliaeth ac yn arbennig y dyddiau yma, mae angen cefnogi gwaith y labeli yma fwy nac erioed”
‘Blynyddoedd mwyaf llewyrchus y Sîn Gymraeg’
Yn ôl y cerddor Yws Gwynedd, sydd hefyd yn berchennog Recordiau Côsh, mae’r “Sîn Gymraeg wedi mwynhau ei blynyddoedd mwyaf llewyrchus ers i PYST gael ei ffurfio a nid cyd-ddigwyddiad mo hynny.”
Recordiau Côsh sydd yn gyfrifol am Alffa, Gwilym, Alys Williams a Thallo.
“Roedd Recordiau Côsh wrthi’n datblygu fel label pan ddaeth PYST i fodolaeth ac mae’n saff dweud na fyddai ein menter wedi llwyddo cystal heb y gwaith cydlynu medrus gafodd ei wneud yn nyddiau cyntaf PYST”, meddai.
“Gyda’r byd cerddorol yn newid o funud i funud mae’n bwysig ymateb, addasu a symud gyda’r amseroedd ac mae PYST wedi llwyddo i helpu labeli annibynol Cymru i wneud hynny – yn wir i fod ar flaen y gâd pan mae’n dod i labeli bychain.
“Yn fwy na hynny, dim sefydlu ac aros yn llonydd mae’r tîm yn PYST ond parhau i arloesi a gwthio ffiniau cerddorol a chelfyddydol”
‘PYST yw’r glud sy’n dod a bob dim ynghyd’
“PYST bellach yw’r glud sydd wedi dod ag artistiaid/labeli a’r cyfryngau at ei gilydd fel grym unedig i hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig i’r byd.” meddai Gruff Owen perchennog Recordiau Libertino sydd yn gyfrifol am fandiau fel Adwaith, Los Blancos, a Papur Wal.
“Mae gweithio gyda PYST wedi ein galluogi fel label i ddatblygu ein ‘roster’ gyda momentwm sydd yn gynaliadwy ac uchelgeisiol i’r dyfodol.
“Dyfodol lle mae cymaint o fewn y diwydiannau creadigol a cherddoriaeth yng Nghymru yn cydweithio i chwalu muriau a chamu i’w lle haeddiannol ar lwyfan byd-eang”
Ariannwyd PYST gan Lywodraeth Cymru.