Bydd y bennod gyntaf mewn cyfres newydd o ‘Hunllef yng Nghymru Sydd’ ar Radio Cymru heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 10) yn mynd i’r afael â chwestiwn mae gwleidyddion a Chymry Cymraeg o bob cwr o’r wlad wedi bod yn ceisio’i ateb ers tro – sut i gyrraedd y ‘Miliwn o Siaradwyr’.

A fydd angen troi at “gynlluniau mwy eithafol” i gyrraedd y nod – beth am “wasanaethau drive-thru amheus a defnydd anghyfreithlon o Duolingo”?

Sut fydd y criw yn ymdopi â “phanig llwyr ar nos Galan 2049”?

Yn ôl Esyllt Sears, roedd ysgrifennu’r gyfres yn cynnig “dihangfa” i’r criw aeth ati.

“O’dd e’n fwy na writers room, o’dd e’n ddihangfa o bopeth oedd yn mynd ymlaen a rhywbeth rheolaidd oedd yn help i roi rhyw strwythur i’n hwythnos ni,” meddai wrth golwg360.

“Roedd rhai wythnosau, ac o ganlyniad syniadau, yn fwy gwallgof na’i gilydd a gelli di weld yn glir o’n nodiadau ni ym mha adegau yn y cyfnod clo a’th pawb braidd yn wallgof!”

Yn ôl Eleri Morgan, roedd hi’n “anodd iawn bod yn greadigol dros y cyfnod clo” ond roedd y sesiynau Zoom i drafod y sgript yn foddion i’r criw.

“Yn ffodus, hon yw’r ail gyfres felly roedden ni i gyd yn gyffyrddus iawn yng nghwmni’n gilydd,” meddai.

“Hefyd, os oedden ni’n teimlo dan straen, roedd hi’n haws cuddio’r gwin o’n ni’n yfed dros Zoom!”

Ac mae Priya Hall yn dweud bod y sesiynau Zoom wedi llenwi bwlch oedd wedi’i adael o fethu “cael ystafell sgwennu efo brechdanau ŵy manky i ginio”.

“Roedd e’n braf cael cyfarfodydd wythnosol zoom,” meddai.

“Ar ôl cyfnod, roedden nhw fel rhyw fath o mental health check-in, ac yn braf gweld bod pawb arall yn dringo’r wal hefyd.

“Roedd e’n 90% sgrechian mewn i’r void, 10% sgwennu comedi!”

Hunllef yng Nghymru Sydd
Hunllef yng Nghymru Sydd

Ysbrydoliaeth yng nghanol pandemig

Yn ôl Esyllt, roedd hi’n “anochel” y byddai lle amlwg i’r coronafeirws yn y gyfres ond trin y pwnc a phynciau llosg eraill y cyfnod fyddai’r her i’r criw.

“Dewison ni’r pynciau ar gyfer pob pennod yn seiliedig ar yr hyn sy’n bynciau trafod llosg yng Nghymru ar hyn o bryd ond, gobeithio ein bod ni wedi ffeindio onglau annisgwyl a chyflwyno rhai agweddau mewn ffordd neith bryfocio meddyliau ac egwyddorion pobl,” meddai.

“Roedd hi hefyd yn anochel bod y pandemig yn mynd i chwarae rhan ganolog…!”

Yn ôl Eleri, roedd hi’n anodd cael y cydbwysedd yn iawn rhwng trin y pwnc a dod o hyd i’r hiwmor.

“Weithiau gall fod yn anodd edrych am y ‘jôc’ pan mae pethau eisoes yn barodi o’i hunain,” meddai.

“Hefyd bydden i’n hapus i aberthu gallu sgrifennu ‘sgetsh ddoniol’ pe bai’n golygu y gallai’r byd fynd nôl i normal!”

Ac yn ôl Priya, mae’r cyfnod wedi cynnig “digon o ysbrydoliaeth sy’n aml yn stranger than fiction”.

‘Llwyth o lols, chaos x 4 a falle wnewch chi chwerthin’

Mae’r gyfres wedi’i rhannu’n bedair pennod, gyda’r bennod gyntaf yn cael ei darlledu am 1.30yp heddiw.

Bydd y criw, sydd wedi bod yn gweithio o dan arweiniad Matthew Glyn Jones ac Iwan England, yn mynd i’r afael â thema Miliwn o Siaradwyr Cymraeg, yr Argyfwng Tai, iechyd a hinsawdd.

Felly beth allwn ni ei ddisgwyl gan y criw dros y mis nesaf?

“Chaos x 4”, yn ôl Priya, a “jyst llwyth o lols”, yn ôl Eleri.

Ac mae gan Esyllt gwestiwn i’r gwrandawyr feddwl amdano wrth ystyried y pedwar pwnc dan sylw yn y gyfres.

“Ydyn ni’n gwneud digon neu ydyn ni i gyd jest yn rhagrithwyr rhonc?

“A falle wnewch chi chwerthin!”