Roedd enillydd Gwobr Iris “mewn dosbarth ar ei phen ei hun”, yn ôl un o’r beirniaid.

Daeth Short Calf Muscle gan Victoria Warmerdam i frig Gwobrau Ffilmiau Byrion LDHT+ Rhyngwlaol Caerdydd, sy’n cael eu cefnogi gan Sefydliad Michael Bishop.

Dyma’r tro cyntaf erioed i ffilm o’r Iseldiroedd gipio’r brif wobr, a bydd gwobr o £30,000 yn galluogi’r enillydd i greu ffilm newydd yng Nghymru.

Dyma brif enillwyr y noson:

• Short Calf Muscle gan Victoria Warmerdam – Gwobr Iris
• Better gan Michael J. Ferns – Ffilm Brydeinig Orau
• Cocoon – Ffilm Nodwedd Orau a Pherfformiad Benywaidd Gorau
• Dry Wind – Perfformiad Gwrywaidd Gorau
Bydd yr holl ffilmiau Prydeinig gorau’n cael eu dangos ar All 4 Film 4 heno (nos Sul, Hydref 11).

Ymhlith y perfformwyr yn ystod y seremoni roedd y gantores Casi Wyn, a’r seren bop Heather Small.

Trafod yr enillydd

Mae’r beirniaid wedi canmol Short Calf Muscle, gyda Philip Guttman yn dweud ei bod yn “dal synnwyr fyd-eang o gael eich camddeall mewn tôn gomic hilariws ond abswrd, gan ei gosod mewn dosbarth ar ei phen ei hun”.

Dywedodd fod y ddeialog yn “siarp” a’r ddawn adrodd stori’n “fedrus”.

Caiff y prif gymeriad Anders, dyn hoyw, ei alw’n gorrach gan bawb o’i gwmpas, gan gyfeirio at gymdeithas sy’n aml yn labelu pobol o’r gymuned LHDT+ yn anghywir.

“Mae’r gwneuthurwr ffilm Victoria Warmerdam yn feistrolgar wrth fynd i’r afael â themâu rhagfarn ac awurdodyddiaeth gymdeithasol sy’n cael ei dal mewn lens ddi-fai sy’n ymdebygu i Stepford, sy’n cyfosod colli rheolaeth mewn byd sydd wedi mynd yn wallgof,” meddai wedyn.

“Mae Ms Warmerdam wedi dangos ei hun fel cyfarwyddwr comedi unigryw a chyffrous sydd ar ei ffordd i fyny.”

Daeth y ffilm i frig cystadleuaeth oedd hefyd yn cynnwys Victoria, Boys ac On My Way

Ffilmiau o Gymru

Roedd dwy ffilm o Gymru ar y rhestr fer ar gyfer y wobr eleni, sef Rhiw Goch (On the Red Hill) gan Anna Winstone a Go Home Polish gan Ian Smith.

Mae Rhiw Goch (On the Red Hill) yn adrodd hanes Mike a Peredur, cwpl hoyw, sy’n etifeddu cartref cwpl hoyw arall, George a Reg, yn ardal Machynlleth.

Dechreuodd perthynas George a Reg pan oedd gwrywgydiaeth yn dal i fod yn anghyfreithlon.

Ffilm Ddogfen yw Go Home Polish, sy’n adrodd hanes ffotograffydd sy’n cerdded 1,000 o filltiroedd yn ôl i’w famwlad ar ôl dod o hyd i graffiti ar wal sy’n dweud ‘Go Home Polish’.