Mae S4C a Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) wedi bod yn cydweithio ar delerau masnach newydd a fydd yn galluogi gwylwyr led led y byd i fwynhau rhaglenni ar alw ar S4C Clic.

Bydd holl raglenni newydd S4C, ynghyd â chynnwys o’r archif lle mae hawliau’n caniatáu, ar gael am gyfnod safonol o 150 diwrnod yn hytrach na’r 35 diwrnod presennol.

Mae hyn yn cynnwys ‘bocs sets’, sydd wedi profi’n boblogaidd yn ddiweddar.

Yn ôl adroddiad blynyddol S4C mae llai o Gymry yn gwylio S4C ar y teledu, ond mae deunydd ar-lein y sianel yn dod yn fwyfwy poblogaidd.

‘Cam mawr ymlaen’

“Mae’r cytundeb hwn yn sicr yn gam mawr ymlaen i ni gyflawni ein strategaeth ddigidol i’r dyfodol”, meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

“Mae ein gwasanaeth ar alw, S4C Clic, wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda dros 100,000 wedi cofrestru erbyn hyn, ac mae’n allweddol bod ein cynnwys ar gael i’n cynulleidfaoedd eu mwynhau unrhyw bryd.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i TAC am ei gwaith yn cydlynu’r Telerau Masnach newydd fydd yn sicrhau gwasanaeth gwell i’n gwylwyr ac yn golygu y gall ein rhaglenni gyrraedd bob rhan o’r byd.”

Mae’r Telerau Masnach hefyd yn golygu bydd modd ffrydio digwyddiadau yn fyw yn fyd-eang gan gynnwys sioeau, gigs, a gwyliau.

Mae Gareth Williams, Cadeirydd TAC yn ffyddiog y bydd y Telerau Masnach hyn yn fuddiol i’r sector cynhyrchu.

“Hoffwn ddiolch i Gyngor ac Is-bwyllgor Hawliau TAC ac i S4C am eu gwaith manwl a gofalus yn ystod y trafodaethau”, meddai.