Mae llai o Gymry yn gwylio S4C ar y teledu, ond mae deunydd ar-lein y sianel yn dod yn fwyfwy poblogaidd, yn ôl ei hadroddiad blynyddol.
Mae’r sianel wedi profi cwymp yn ei chyrhaeddiad wythnosol ar deledu yng Nghymru ac ymhlith siaradwyr Cymraeg.
Ond mae rhagor yn gwylio’r sianel ar deledu y tu allan i Gymru, ac mae’r cyrhaeddiad ledled y Deyrnas Unedig wedi cynyddu hefyd.
Yn ogystal, mae poblogrwydd S4C ar y we wedi cynyddu cryn dipyn, ac mae nifer y cofrestriadau i’r gwasanaeth ar-lein, S4Clic, wedi neidio i ddegau o filoedd.
Cyrhaeddiad wythnosol ar deledu
Mae’r ffigurau isod yn siŵr o fod yn chwerw-felys i’r sianel gyda chwymp ymhlith rhai cynulleidfaoedd, ond cynnydd ymhlith eraill…
- Y Deyrnas Unedig – 702,000 (eleni); fyny o 665,000 (llynedd)
- Tu allan i Gymru – 396,000 (eleni); fyny o 351,000 (llynedd)
- Cymru – 306,000 (eleni); lawr o 314,000 (llynedd)
- Siaradwyr Cymraeg yng Nghymru – 142,000 (eleni); lawr o 146,000 (llynedd)
Oriau gwylio
Ar y llaw arall mae ystadegau oriau gwylio ar-lein S4C yn gwbl bositif, ac yn dangos bod eu deunydd ar y rhyngrwyd yn dod yn fwy poblogaidd.
S4C Clic
- 2019/20 – 495,000
- 2018/19 – 436,000
- 2017/18 – 411,000
Pob tudalen Facebook S4C
- 2019/20 – 285,000
- 2018/19 – 236,600
Pob sianel YouTube S4C
- 2019/20 – 217,900
- 2018/19 – 143,600
Deg uchaf 2019/20
Pob blwyddyn mae’r sianel yn cyhoeddi ei rhaglenni mwya’ poblogaidd, ac mae chwaraeon yn llenwi’r deg uchaf unwaith eto eleni.
- Sgorio Rhyngwladol: Cymru v Hwngari (19/11/19) – 366,000 wedi gwylio
- Patrol Pawennau (11/04/19)- 217,000
- Rygbi Cwpan Her Ewrop: Scarlets v Toulon – 214,000
- Clwb Rygbi Rhyngwladol (dan 20): Cymru v yr Eidal – 199,000
- Clwb Rygbi (Gweilch v Ulster) – 170,000
- Eisteddfod yr Urdd 2019 (01/06/19) – 105,000
- Un Bore Mercher (12/05/19) – 98,000
- Noson Lawen (21/12/19) – 94,000
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2019 (09/08/19) – 94,000
- Y Gymanfa Ganu (04/08/19) – 91,000
“Her” y cyfnod clo
Wrth gyhoeddi’r adroddiad mae Owen Evans, Prif Weithredwr S4C, wedi canmol ei staff am gadw’i fynd trwy’r argyfwng coronaferiws.
“Mae wedi bod yn her i gynnal y sianel drwy’r cyfnod clo,” meddai, “ond rwy’n ddiolchgar am gefnogaeth fy nhîm a’r staff, bwrdd a chadeirydd egnïol a chefnogol, llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru, BBC, TAC a’r sector gynhyrchu annibynnol i gyd am eu cefnogaeth ddiflino.”