Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi dweud nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cymryd camau tebyg i’r rhai sydd wedi eu cymryd yn yr Alban ar hyn o bryd.

“Ar hyn o bryd dydym ni ddim wedi cyrraedd pwynt ble mae angen cau rhannau o ddiwydiant lletygarwch”, meddai wrth BBC Radio Wales.

“Ond mae’r afiechyd hwn yn datblygu ac yn newid yn gyflym a gall pethau newid erbyn dydd Sul neu ddydd Llun i gymharu a’r sefyllfa heddiw.”

Bydd rhaid i dafarndai a bwytai mewn 5 ardal wahanol yn yr Alban, gan gynnwys yng Nghaeredin a Glasgow, gau am bythefnos heddiw (Hydref 9) – ond bydd y busnesau hyn yn cael parhau i ddosbarthu bwyd.

Bydd dim hawl gan fusnesau trwyddedig mewn rhannau eraill o’r Alban werthu alcohol dan do yn ystod yr un cyfnod.

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, eisoes wedi awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfyngiadau tebyg.

Mae disgwyl i’r prif weinidog, Mark Drakegord roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau ac ymdrechion i leihau lledaeniad y coronafeirws yng Nghymru mewn cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma.

Ystyried effaith diweithdra ar iechyd pobol

Ychwanegodd Vaughan Gething: “Os ydyn ni’n mynd i orfod cau sector gyfan o’r economi heb y gefnogaeth i gadw’r pobol hynny i fynd – gan nad fydd busnesau yn gallu agor yna mae’r pobol hynny yn myndi golli eu swyddi a’u busnesau – gall diweithdra arwain at broblemau iechyd, sydd yn ffactor bwysig mae rhaid i ni ystyried.”

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn awgrymu y gallai fod cyswllt rhwng y cynnydd mewn diweithdra yng Nghymru oherwydd y coronafeirws a’r cynnydd mewn pobol â salwch hirsefydlog.