Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw am ymchwiliad i’r marwolaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Adroddwyd ddoe (Hydref 8) fod 3 yn rhagor o farwolaethau wedi eu cofnodi yno gan ddod a chyfanswm y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag achosion o’r coronafeirws yn yr ysbyty yn Llantrisant i 24.

“Yn anffodus, mae darlun cythryblus a phryderus iawn yn datblygu yn yr ysbytai hyn”, meddai Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

Andrew R T Davies
Andrew RT Davies

“Ac mae hyn yn cael ei gymhlethu ymhellach yn dilyn y cyhoeddiad y bydd agoriad ysbyty maes yn y rhanbarth yn cael ei ohirio.

“Mae staff rheng flaen yn gwneud gwaith anhygoel mewn amgylchiadau heriol, ond rhaid iddynt gael eu cefnogi gan reolwyr cymwys ar lefel bwrdd iechyd a gweinidogol.

“Mae yna bryderon a chwestiynau difrifol y mae angen eu hateb, ac oherwydd hyn rwy’n erfyn ar y Gweinidog Iechyd i gomisiynu ymchwiliad ar unwaith i’r sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.”

Ychwanegodd Andrew RT Davies: “Mae ein meddyliau gyda theuluoedd y rhai sydd wedi marw yn drasig oherwydd achosion sy’n gysylltiedig â’r tri ysbyty yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.”

Mae 17 o achosion ac un farwolaeth yn gysylltiedig ag achosion o’r coronafeirws yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, tra bod 15 achosion ac un farwolaeth yn gysylltiedig ag achosion yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.