Mae prif drafodwr yr Undeb Ewropeaidd, Michel Barnier, yn Llundain heddiw (dydd Gwener 9 Hydref) ar gyfer y trafodaethau diweddaraf gyda’r Arglwydd Frost, prif drafodwr Llywodraeth Prydain.

Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog Prydain y byddai’r trafodaethau’n parhau drwy dydd Gwener yn Llundain, yna’n ailddechrau ym Mrwsel “ddechrau’r wythnos nesaf”.

Gyda dim ond wythnos i fynd tan uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd a bennwyd gan Boris Johnson fel y ‘dyddiad cau’ o ran penderfynu a ellir dod i gytundeb, nid oes unrhyw gynlluniau i’r negodwyr barhau i drafod dros y penwythnos.

Dywedodd llefarydd Prif Weinidog Prydain: “Rydym wedi bod yn gwbl glir ynglŷn â’r angen i weithio tuag at y Cyngor Ewropeaidd ym mis Hydref. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi cytuno i drafodaethau dwysach, mae’r rheini wedi bod yn digwydd yr wythnos hon a byddwch yn gweld mwy ohonynt yr wythnos nesaf.”

‘Mewn undod ag Iwerddon’

Yn Iwerddon, dywedodd Charles Michel, Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, fod yr Undeb Ewropeaidd yn sefyll mewn undod ag Iwerddon o ran y trafodaethau Brexit.

Wrth siarad yn Adeilad Llywodraeth Iwerddon, Farmleigh House, yn Nulyn, dywedodd Mr Michel: “Mae fy neges yn syml: mae’r Undeb Ewropeaidd yn sefyll mewn undod llawn ag Iwerddon. Mae hyn yn arbennig o wir o ran gweithredu’r Cytundeb Ymadael yn llawn a’r protocol ar Iwerddon a Gogledd Iwerddon.

“Mae’n destun wedi’i drafod ers tair blynedd, pob gair, mae pob coma wedi cael ei drafod am oriau ac oriau. Fe’i haddaswyd gan y ddau barti. Nid oes unrhyw amheuaeth o’i weithredu’n llawn.”

Nid mater i Iwerddon yn unig yw Brexit, mae hefyd yn un Ewropeaidd, ychwanegodd Mr Michel.

Dywedodd ei fod wedi dweud wrth Brif Weinidog Prydain, Boris Johnson, ei bod hi’n amser i’r Deyrnas Unedig nawr roi ei chardiau ar y bwrdd.

“Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda’n Prif Weinidog Johnson,” meddai Mr Michel.

“Mater i’r DU nawr yw adfer ymddiriedaeth a rhoi ei holl gardiau ar y bwrdd. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gwneud ei gorau glas i ddod o hyd i gytundeb â’r Deyrnas Unedig – ond nid ar unrhyw gost.”

“Mae’r dyddiau nesaf yn hanfodol – dyma’r foment dyngedfennol,” ychwanegodd.

“Heriol iawn”

Disgrifiodd Taoiseach Iwerddon, Micheal Martin, y trafodaethau Brexit fel rhai “heriol iawn”.

Wrth siarad ochr yn ochr â Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, Charles Michel, y tu allan i Farmleigh House yn Nulyn, dywedodd Mr Martin:

“Mae angen symud o ran mynd i drafodaethau diwedd cyfnod a teimlwn fod llawer o waith i’w wneud eto mewn sawl maes, ac mae tasg eithaf heriol o flaen y negodwyr i sicrhau bod cytundeb yn cael ei wneud.”