Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar y Swyddfa Gartref i roi’r gorau i ddefnyddio gwersyll milwrol Penalun i gartrefu ceiswyr lloches, a hynny “cyn gynted â phosibl”.

Ar ôl i geiswyr lloches gael eu symud i’r gwersyll ger Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro ym mis Medi, bu protestio tu allan i’r safle.

Nod yr adleoli yw lleddfu’r straen sydd ar ganolfanau tebyg yn ne ddwyrain Lloegr.

Pryderon am ba mor addas yw’r gwersyll

Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon sylweddol dro ar ôl tro ynghylch pa mor addas yw gwersyll Penalun ar gyfer ceiswyr lloches.

“Nid yw’r gwersyll yn diwallu anghenion sylfaenol pobol sy’n ceisio bywyd newydd yn y Deyrnas Unedig,” meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip.

“Mae pobol yn cael eu gosod mewn llety na luniwyd i’w ddefnyddio yn hirdymor, ac nad yw’n addas i’r diben – cytiau wedi’u hinswleiddio’n wael yn bennaf – ac mae perygl i nifer o bobol fregus sydd o bosib wedi ffoi rhag camdriniaeth a phoenydio wynebu ail drawma.

“Fe wnaethom ofyn am gael oedi cyn agor y gwersyll er mwyn sicrhau bod cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith gyda gwasanaethau lleol i’w galluogi i baratoi ar gyfer dyfodiad ceiswyr lloches, yn enwedig mewn perthynas â mesurau iechyd cyhoeddus Covid-19.

“Gwrthodwyd ein cais ac, o ganlyniad, nid oes mesurau priodol yn eu lle.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gofyn i’r Swyddfa Gartref wneud newidiadau i warchod iechyd a lles ceiswyr lloches.

Diolchodd Jane Hutt i’r Heddlu, yr awdurdodau lleol a’r trydydd sector, am eu cefnogaeth a’u harbenigedd.

Roedd y Swyddfa Gartref eisoes dan y lach wedi i Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru, ddweud iddo glywed am y cynllun – yn ei etholaeth ei hun – trwy’r awdurdod lleol a gwefan gymdeithasol Facebook, ac nid gan y Swyddfa Gartref.