Mae Cadeirydd mudiad YesCymru wedi dweud bod cân annibyniaeth Dewi Pws, ‘Yes, Yes, Yes (Cymru)’, wedi “taro’r hoelen ar ei phen.”

Daw hyn yn sgil ymgyrch i gael y gân i mewn i siartiau iTunes, gyda YesCymru yn galw ar bobl i’w lawrlwytho  yr wythnos hon, gan ddechrau ddydd Gwener (Hydref 16).

“Mae’r geiriau’n wych gan Dewi Pws gan eu bod nhw mor syml ond yn dweud sut mae pobol yn teimlo,” meddai Siôn Jobbins, Cadeirydd YesCymru.

Yn y gân, mae Dewi Pws yn galw ar Gymry i godi a “get out of this mess.”

“Mae o’n taro’r hoelen ar ei phen, mae San Steffan yn analluog a llwgr ac mae hi’n amser am rywbeth gwahanol,” meddai Siôn Jobbins.

Dywedodd hefyd ei bod yn llesol bod elfennau hwyliog megis cân Dewi Pws yn perthyn i’r ymgyrch annibyniaeth.

“Mae’n holl bwysig oherwydd dyna lwyddiant YesCymru, rydym wedi creu mudiad torfol dros annibyniaeth.

“Dyna fethiant cenedlaetholwyr Cymreig dros y 100 mlynedd diwethaf, does dim mudiad torfol wedi bod… byddai cyfarfodydd parchus yn cael eu cynnal mewn rhyw Neuadd Goffa yn rhywle i drafod annibyniaeth.

“Ond rydym ni wedi creu mudiad mawr, hapus a thorfol dros annibyniaeth yng Nghymru.”

“Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r mwyaf llwgr a di-drefn yn y byd gorllewinol, oni bai am yr UDA”

Mae Siôn Jobbins wedi dweud bod twf aelodaeth YesCymru yn “syfrdanol”.

Roedd gan y mudiad dros annibyniaeth 2,000 o aelodau ym mis Chwefror, ond bellach mae oddeutu 7,500 o bobol wedi ymaelodi.

“Bu’n rhaid i ni ohirio tair rali yn sgil y coronafeirws felly doedden ni ddim yn siŵr sut y byddai’r flwyddyn hon yn mynd i ni,” meddai Cadeirydd YesCymru wrth golwg360.

Mae yn credu bod y ffordd mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymateb i’r argyfwng wedi arwain at fwy o bobol yng Nghymru’n ymuno â’r ymgyrch annibyniaeth.

“Mae trobwynt wedi bod yng Nghymru… mae’r cyfnod clo wedi dangos celwydd a thwyll San Steffan ac mae mwy a mwy o bobol yn meddwl bod Cymru’n well ar ben ein hunain,” meddai.

“Rydym yn gweld pobol newydd yn ymuno â’r mudiad, rhai yn bobol fyddai ddim yn ystyried eu hunain yn genedlaetholwyr, ond sydd wedi cael digon ar San Steffan.

“Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r mwyaf llwgr a di-drefn yn y byd gorllewinol, oni bai am yr UDA.”

Jacob Rees-Mogg yn “gwneud gwyrthiau i’r ymgyrch annibyniaeth”

 Dywedodd Siôn Jobbins  fod Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg AS “yn gwneud gwyrthiau i’r ymgyrch annibyniaeth pob tro mae o’n agor ei geg.”

Daw hyn ar ôl iddo feirniadu Llywodraeth Cymru gan ddweud bod y gwaharddiad teithio yn “anghyfansoddiadol”.

“Rydym i gyd yn rhan o un Deyrnas Unedig ac ni ddylem gael ffiniau rhwng gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig,” meddai Jacob Rees-Mogg yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Iau (Hydref 15).

Ond mae Siôn Jobbins yn credu bod penderfyniad Mark Drakeford i wahardd pobol o ardaloedd sydd â lefelau uchel o’r coronafeirws – ledled Deyrnas Unedig – rhag teithio i Gymru yn “gall a synhwyrol.”

“Pwy ddiawl mae o (Jacob Rees-Mogg) yn credu ydi o?” yw cwestiwn plaen Siôn Jobbins.

“Mae Llywodraeth Cymru Mark Drakeford yn gweithredu’n gall a synhwyrol, ac mae pobol yn gallu gweld sut mae Cymru’n rheoli ei hun, yn achub bywydau.

“Mae agwedd San Steffan tuag at Gymru’n gwbl sarhaus… dw i’n meddwl bod bron i 500 o bobol wedi dilyn ni ar Trydar yn dilyn sylwadau Jacob Rees-Mogg.

“Mae o’n gwneud gwyrthiau i’r ymgyrch annibyniaeth pob tro mae o’n agor ei geg.”