Yn ôl Rhodri Williams, cadeirydd newydd S4C, roedd rhoi’r gorau i wasanaeth HD y sianel yn “gamgymeriad strategol enfawr”– sydd wedi arwain at golli slot blaenllaw 104 ar rai setiau teledu.
Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei benodi ym mis Ebrill, dywedodd Rhodri Williams hefyd fod y sianel genedlaethol “ar ei hôl hi o ran darpariaeth ddigidol”.
“Falle bod wyth mlynedd o drafod wedi digwydd, ond does dim wyth mlynedd o weithgaredd wedi digwydd”, meddai mewn cyfweliad â BBC Cymru.
“Ac o ganlyniad, bellach, os ydych yn edrych ar eich canllaw rhaglenni electronig ar eich teledu yn yr adran diffiniad uchel, welwch chi taw Channel 4 sydd yn meddiannu’r slot 104 [ar Freeview].
“Nawr, does dim setiau teledu diffiniad cyffredin ar gael rhagor. Dim ond diffiniad uchel, a 4K ac 8K. Dyna lle mae’r dyfodol.
“Fyddwn i yn ymgyrchu yn galed i sicrhau ein bod ni yn parhau gydag amlygrwydd ar setiau teledu clyfar, a hefyd bod ein cynnwys ni i’w weld ar wefannau o bob math, a gwasanaethau cymdeithasol ar y we, fel bod pobl yn ffeindio fe’n rhwydd i ddod at gynnwys Cymraeg yn hytrach na gorfod chwilio amdano fe.”
‘Wedi methu â dygymod â’r her’
Mae Rhodri Williams o’r farn bod S4C wedi cael trafferth gwahaniaethu beth sy’n addas ar gyfer y sgrîn deledu draddodiadol, a pha wasanaethau dylai fod ar lwyfannau digidol.
“Dwi’n credu bod S4C ar ei hôl hi o ran darpariaeth digidol.
“Ac wedi methu – mewn ffordd – â dygymod â’r her o benderfynu pa fath o wasanaethau mae’n bosibl eu darparu nhw ar y sgrîn deledu draddodiadol, a pha wasanaethau sydd yn well yn cael eu darparu ar lwyfannau digidol gwahanol.”
Effeithiau toriad 2010 dal i’w deimlo
Bu toriad sylweddol i gyllideb gyhoeddus S4C yn 2010 – gostyngiad o £101.6m yn 2010 i £83m yn 2012 – fel rhan o Adolygiad Cynhwysfawr Gwariant y Llywodraeth.
“Fe gollodd S4C dros draean o’i hariannu yn 2010,” meddai Rhodri Williams, “ac ers hynny wedi parhau i lenwi’r holl oriau – gan gomisiynu cynnwys oedd yn cael ei gomisiynu er mwyn llenwi slot yn hytrach am bod rywun am ei weld e, ac am lenwi’r amserlen gyda nifer helaeth o ail-ddarllediadau o’r archif.
“A rhai ohonyn nhw ddim yn rhaglenni llwyddiannus iawn pan gaethon nhw eu darlledu y troeon cyntaf yn y 90au.”
‘Trawsnewid natur y gwasanaeth’
Er mae’r argyfwng Covid-19 sydd wedi meddiannu sylw bwrdd S4C yn ystod ei fisoedd cyntaf, mae Rhodri Williams wedi dechrau trafod pwrpas y Sianel yn fewnol, ac mae’n awyddus i ehangu’r drafodaeth i gynnwys y sector cynhyrchu a’r cyhoedd.
“Yr her dwi wedi cyflwyno i’n hunan ac i’r bwrdd yw gofyn: pe bai S4C yn cael ei sefydlu heddiw, pa fath o wasanaeth fyddwn ni’n cael? Dwi ddim yn credu taw’r un presennol fydde fe.”
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio ysgogi newidiadau erbyn Ebrill 2022.
“Mae’n rhaid ein bod ni wedi trawsnewid natur y gwasanaeth hwn i sicrhau fod e’n un hyfyw a chredadwy ar gyfer y dyfodol.”