Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones
Toriadau i gyllideb y sianel sydd wedi achosi colled weithredol o dros £6 miliwn yn 2011, yn ôl Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones.
Dywedodd Huw Jones bod “yr her o ddygymod a chyllid llawer is, yn parhau’n un sylweddol.”
Mae S4C wedi gweld toriad yn eu cyllideb gyhoeddus o £101.6m yn 2010 i £83m yn 2012 fel rhan o Adolygiad Cynhwysfawr Gwariant y Llywodraeth.
“Hyd yma mae’r mesurau wedi creu dros £2.5m o arbedion a disgwylir arbedion pellach yn y flwyddyn hon,” ychwanegodd Cadeirydd Awdurdod S4C.
Diwedd Clirlun
Bydd gwasanaeth manylder uwch S4C, Clirlun, yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn fel rhan o fesurau effeithlonrwydd.
Roedd y ddarpariaeth o wasanaeth Clirlun yn costio £1.5 miliwn y flwyddyn i’r sianel.
“Mae’r penderfyniad yn dod yn sgil y gostyngiad sylweddol yn ein cyllideb gyhoeddus,” meddai Ian Jones, Prif Weithredwr S4C.
“Does dim modd osgoi penderfyniadau o’r fath sy’n anochel oherwydd gostyngiad o 36% mewn termau real yn ein cyllideb.”
BBC
Wrth gyfeirio at y cytundeb newydd rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC, dywedodd Huw Jones fod trafodaethau wedi eu cynnal rhwng y ddau ddarlledwr ynglŷn â’r trefniadau cyllido o 2013 ymlaen.
“Rwy’n credu y bydd y Cytundeb Gweithredol rhwng Ymddiriedolaeth y BBC ac Awdurdod S4C yn darparu sicrwydd pellach bod dyfodol S4C, a’i allu i weithredu yn annibynnol, wedi cael eu sicrhau, tra’n darparu dulliau priodol o fod yn atebol i Ymddiriedolaeth y BBC am y defnydd a wneir o arian y drwydded deledu,” meddai.
Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â’r Cytundeb Gweithredol yn cael ei gynnal yn fuan.
Er bydd S4C yn cael ei ariannu yn bennaf o ffi’r drwydded o 2013-14 ymlaen, mae’r Cadeirydd, yn ei gyflwyniad, yn galw am sicrwydd o barhad cyfraniad ariannol yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon fan lleiaf drwodd i 2017.