Bydd dros 500 o ddioddefwyr y gyflafan yn Srebrenica yn cael eu claddu yn y dref ym Mosnia i nodi 17 mlynedd ers y trychineb.

Mae disgwyl i 30,000 o bobl fynychu’r gladdedigaeth yn Potocari nes ymlaen heddiw.

Mae miloedd o bobl – y mwyafrif ohonynt yn berthnasau i’r dioddefwyr – wedi ymgynnull yn y ganolfan goffa yno cyn y seremoni.

Lladdwyd tua 8,000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd ar ôl i luoedd Bosnia-Serbia ymosod ar y dref ym mis Gorffennaf 1995.

Mae’r tribiwnlys ar droseddau rhyfel y Cenhedloedd Unedig wedi cydnabod y gyflafan fel hil-laddiad.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gydnabod fel y drosedd waethaf o’i math ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.