Mae tafarn yng Ngheredigion wedi gorfod cau ei drysau i gwsmeriaid, wedi iddi fethu ufuddhau i reolau’r corona.

Fe gafodd y Ffostrasol Arms, Llandysul, hysbyseb i gau gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd y cyngor sir lleol oherwydd diffyg cydymffurfio parhaus â rheolau’r coronafeirws.

Mae gan Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd y pŵer i gau busnesau, gorfodi gwelliannau yn ogystal ag adolygu trwyddedau neu dystysgrifau.

Roedd hysbysiad gwella wedi cael ei gyflwyno i’r dafarn eisoes, ond mae’n debyg ei bod wedi anwybyddu’r rhybudd.

Bydd y Ffostrasol Arms yn aros ar gau tan y maen nhw’n gwneud gwelliannau.

Mae Cyngor Sir Ceredigion, gyda chefnogaeth Heddlu Dyfed-Powys, wedi cynyddu eu gwaith o ran goruchwylio a rhybuddio busnesau sy’n torri’r rheolau, gan geisio atal achosion coronafeirws rhag cynyddu yn y sir.

Ac mae’r cyngor wedi rhybuddio eu bod yn barod i gau mwy o dafarnau er mwyn sicrhau bod busnesau’n cydymffurfio â’r rheolau.

Ond ar y cyfan, dywed Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd bod nifer helaeth o’r busnesau wnaeth dderbyn hysbysiad gwella, wedi gwneud gwelliannau bellach.