Mae menter newydd wedi ei lansio i helpu dysgwyr i gael gwell gafael ar yr iaith Gymraeg, er mwyn iddyn nhw allu dod yn ddigon rhugl i fedru helpu ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron y flwyddyn nesaf.
A hithau yn wythnos dathlu dysgu Cymraeg, mae pwyllgorau’r Brifwyl yng Ngheredigion wedi bachu ar y cyfle i dynnu sylw at gynllun arloesol sy’n cefnogi siaradwyr Cymraeg newydd yn yr ardal.
Cynllun gan Bwyllgor Dysgu Cymraeg yr Eisteddfod Genedlaethol yw ‘Byddwch yn un o’r miliwn’, a’i fwriad yw cael aelodau o bwyllgorau apêl leol i helpu dysgwyr Cymraeg wrth iddyn nhw fynd ati i ddysgu’r iaith.
Er bod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngheredigion wedi ei gohirio eleni, mae’r cynllun yn ffordd dda o gynnal y “brwdfrydedd a’r momentwm” meddai Medi James, Cadeirydd y Pwyllgor Dysgu Cymraeg.
“Mae yna rywbeth ar ben draw’r cynllun.”
Bwriad y fenter yw cynnig cyfleoedd ychwanegol i ddysgwyr sgwrsio gyda siaradwyr Cymraeg dros y gaeaf, er mwyn datblygu’u hyder, fel eu bod yn barod i gymryd rhan a chynorthwyo yn yr Eisteddfod y flwyddyn nesaf.
“Y nod yw denu dysgwyr i gychwyn a pharhau â gwersi Cymraeg yn y gobaith y byddan nhw’n barod i weithio ar y maes y flwyddyn nesaf gyda hyn yn rhoi hwb iddyn nhw barhau gyda’r dysgu,” meddai Medi James.
“Felly mae yna rywbeth ar ben draw’r cynllun.”
Drwy blethu sesiynau dysgu o fewn y dosbarth a hefyd sicrhau cyfleodd i sgwrsio gyda gwirfoddolwyr o’r gymuned leol, y bwriad yw darparu profiad cyfoethocach i’r rhai sy’n dymuno dysgu.
“Dydyn ni ddim yn athrawon”
“Y bwriad yw helpu pobl sydd yn dysgu Cymraeg i ddod yn fwy hyderus i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd gwahanol ac i rannu sgwrs – ac yn y bôn dyna sydd yn fy niddori i,” meddai Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Cwmni Theatr Arad Goch ac un o wirfoddolwyr y cynllun.
“Dydyn ni ddim yn athrawon, ein rôl ni ydi i gefnogi a chadarnhau, helpu i ddatrys unrhyw rwystr ac i normaleiddio sgwrs.”
Eglurodd bod y sesiynau anffurfiol yn darparu math o rwyd diogelwch i’r sawl sy’n dysgu.
“Mae dysgu iaith fel croesi pont bwa, pont gron,” meddai. “Ti’n straffaglu i ben y bont ac wedyn fel ti’n cyrraedd pen y bont, ti’n teimlo dy hun yn mynd lawr yr ochr arall yn hwylus.”
“Cwbl ganolog i’n cenhadaeth”
Noddir y cynllun gan Bro360 ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.
“Mae datblygu’r cyfleoedd sydd ar gael i’r di-Gymraeg yn rhan greiddiol o’n gwaith gyda’r gwefannau bro yng Ngheredigion (ac ardal Arfon), ac ry’n ni’n falch iawn o estyn cefnogaeth a chreu rheswm a phlatfform i’r dysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg sy’ gyda nhw,” meddai Lowri Jones, Cydlynydd Prosiect Bro360.
Dros y misoedd nesaf a thu hwnt, bydd modd i bawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun – y dysgwyr a’r pwyllgorau lleol – rannu eu straeon a’u profiadau ar BroAber360, Caron360 a Clonc360.
Ychwanegodd Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth, Dr Cathryn Charnell-White fod cynnig cyfleoedd i ddysgwyr y Gymraeg gyfoethogi eu profiad o’r iaith a’i diwylliant yn “bwysig dros ben” i’r adran ac yn “gwbl ganolog i’n cenhadaeth”.
Yn sgil y cyfyngiadau diweddar, mae’r holl wersi a sgyrsiau wedi eu cynnal yn rhithiol.