Mae adroddiadau bod Mark Reckless AoS wedi gadael Plaid Brexit ag ymuno â Phlaid Diddymu’r Senedd.

Mae Mark Reckless AoS wedi bod yn Aelod o’r Senedd ers 2014, a than heddiw ef oedd Arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd.

Ond mae adroddiadau ei fod wedi ymunod gyda Phlaid Diddymu’r Senedd – dyma fyddai’r bumed blaid iddo’i chynrychioli mewn chwe blynedd.

Cafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ar wefan Guido Fawkes fore dydd Gwener (Hydref 16).

Byddai ymadawiad Mark Reckless yn golygu bod grŵp Plaid Brexit yn y Senedd yn llai na’rr isafswm o dri aelod sydd ei angen i gael mynediad i arian ychwanegol, staff ac adnoddau.

O ganlyniad, byddai pob aelod o staff y grŵp yn colli eu swyddi.

Fodd bynnag, mae’n debyg bod aelodau eraill y blaid am ffurfio grŵp annibynnol newydd gyda’r cyn-aelod UKIP a Phlaid Brexit Carloine Jones.

Gadawodd hi Blaid Brexit am ei bod o blaid datganoli ac yn gwrthwynebu diddymu’r Senedd.

Ers iddo ddod yn Aelod o’r Senedd, mae Mark Reckless wedi cynrychioli’r pleidiau canlynol:

  • UKIP (2014 – 2017)
  • Ceidwadwyr Cymreig (2017 – Ebrill 2019)
  • Annibynnol (Ebrill 2019 – Mai 2019)
  • Plaid Brexit (Mai 19 – Hydref 20)

Mae golwg360 wedi ceisio cysylltu â Mark Reckless AoS ac arweinydd Plaid Diddymu’r Senedd Gareth Bennett AoS am sylw.