Mae cwest wedi clywed i ddyn busnes priod o Abertawe gael ei ddarganfod yn farw yn nhŷ un o’i gariadon yn Llanelli, ar ôl cael ei drywanu sawl gwaith.

Roedd Gary Williams, 58, wedi bod yn briod ag Elaine Williams ers blynyddoedd, tra hefyd mewn perthynas â dwy ddynes arall.

Bu’n cynnal carwriaeth tu allan i’w briodas gyda dynes o Lanelli ers 1991.

Clywodd Llys Crwner Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin nad oedd gwraig Gary Williams na’i gariad o Lanelli yn ymwybodol o’i gilydd, nac yn gwybod ei fod mewn perthynas â Jessena Sheridan ers 2014.

Gadawodd Gary Williams ei gartref yn Abertawe ar Noswyl Nadolig y llynedd, gan ddweud wrth ei wraig ei fod yn danfon carafán i Swydd Efrog ac y byddai’n ôl fore Nadolig.

Yn lle hynny, aeth i gartref Jessena Sheridan yn Llanelli lle daethpwyd o hyd iddo yn farw ar Ragfyr 29.

‘Bywyd triphlyg’

“Heb yn wybod i’w deulu, mae’n ymddangos bod Gary wedi bod yn arwain bywyd triphlyg”, meddai swyddog y crwner, Malcolm Thompson, wrth y cwest.

“Ers 1991 roedd Gary wedi bod yn rhan o berthynas â dynes o ardal Llanelli y byddai’n treulio sawl noson gyda hi yn ystod yr wythnos.

“Roedd wedi dweud wrthi ei fod wedi gwahanu oddi wrth ei wraig a bod ganddo fab yn byw dramor.

“Roedd hi’n ystyried eu bod nhw yn bartneriaid.

“Heb yn wybod i’w wraig na’i bartner, roedd hefyd yn cael perthynas â Jessena Sheridan.”

Wedi ei drywanu 50 gwaith

Ar Ragfyr 29, aeth aelodau o deulu Jessena Sheridan i’w chartref yn Lakefield Place, Llanelli, gan nad oedden nhw wedi clywed ganddi ers diwrnod Nadolig.

“Wrth iddyn nhw fynd i mewn i’r tŷ roedd darn mawr o gardbord yn blocio’r grisiau ac yn eu hysbysu i beidio â mynd i mewn ac i ffonio’r heddlu, a neges yn nodi ei bwriad,” meddai swyddog y crwner.

“Roedd gwaed ar y waliau a’r llawr ac roedd sawl cyllell o wahanol feintiau ar lawr yr ystafell wely.”

Cafwyd hyd i gorff noeth Gary Williams mewn ystafell wely ger corff Jessena Sheridan.

Roedd Gary Williams wedi ei drywanu 50 gwaith ac roedd anafiadau i arddyrnau a breichiau Jessena Sheridan.

Dim manylion clir am yr hyn a ddigwyddodd

Cofnododd yr Uwch Grwner Dros Dro Paul Bennett reithfarn o ladd anghyfreithlon.

“Nid oes dadl bod Gary Williams wedi bod yn byw bywyd triphlyg a braidd yn gymhleth”, meddai.

“Roedd wedi gallu gwahanu’r perthnasoedd hyn yn llwyr heb fod gan ei wraig na’i bartner tymor hir unrhyw wybodaeth am ei gysylltiad pellach â Miss Sheridan.

“Nid oes unrhyw fanylion clir ar gael am yr hyn a ddigwyddodd wedi hynny heblaw bod yn rhaid bod rhyw fath o wrthdaro wedi bod rhwng Gary a Miss Sheridan.

“Trasiedi go-iawn yr achos hwn yw peidio â gwybod beth a arweiniodd at y gyfres ofnadwy  o ddigwyddiadau a beth oedd bwriad ymosodwr Mr Williams ar y pryd.”

Mae’r cwest i farwolaeth Jessena Sheridan yn parhau.