Mae undeb Unsain Cymru yn dweud bod penderfyniad Boris Johnson i drethu a chodi taliad Yswiriant Cenedlaethol ar fonws o £500 i weithwyr gofal yn “warthus.”
Fe gafodd y bonws ei dalu i weithwyr gofal gan Lywodraeth Cymru, yn gydnabyddiaeth am eu gwaith yn ystod y pandemig.
Yn ôl yr undeb bydd 65,000 o weithwyr a’u teuluoedd yng Nghymru’n cael ei effeithio gan y penderfyniad i drethu’r bonws.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y bydd y dreth sy’n cael ei thalu ar y £500 yn cyfrif yn erbyn budd-daliadau Credyd Cymhwysol i’r mwyafrif o ofalwyr, oherwydd eu bod yn derbyn tâl isel.
Byddai hynny yn gallu lleihau’r bonws i gyn lleied â £125.
‘Gwna’r peth iawn, Boris’
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi bod yn dadlau na ddylai’r gweithwyr gofal dalu treth ar y bonws, ond hyd yma mae Llywodraeth San Steffan wedi gwrthod.
Yn y cyfamser mae Unsain wedi ysgrifennu at Boris Johnson yn gofyn iddo “wneud y peth iawn”.
“Mae penderfyniad y Prif Weinidog yn warthus, ac mae’n dangos nad yw ef ar ochor gweithwyr gofal yng Nghymru.
“Mae ganddyn nhw bob hawl i deimlo’n chwerw ynghylch hyn.
“Dylai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, fod yn gwthio’r mater yn y Cabinet ar gyfer pobol Cymru, ond dyw hynny ddim fel petai’n digwydd chwaith.”