Mae Mark Drakeford yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi dewis cyflwyno’r cyfnod clo “byrraf posib”.

Daw hyn er mwyn “lleihau’r effaith ar iechyd meddwl pobol”, meddai.

“Mae hwn yn gyfnod anodd iawn a dyna pam ein bod wedi penderfynu dewis y cyfnod clo byrraf bosib – pythefnos,” meddai wrth raglen BBC Breakfast.

“Ond os ydym yn ei wneud yn fyr, mae’n rhaid iddo fod yn llym.

“Byddem wedi gallu mynd am gyfnod hirach gydag ychydig yn llai o gyfyngiadau, ond roedd y cyngor rydym ni wedi ei dderbyn yn dweud bod cadw’r cyfnod mor fyr â phosibl yn help wrth leihau’r effaith ar iechyd meddwl pobol.”

Bydd aelwydydd oedolion sengl yn cael ffurfio aelwyd estynedig ag un cartref arall er mwyn lliniaru teimladau o “unigrwydd ac ynysu”, meddai wedyn.

Mesur llwyddiant

Dywed y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio ffactorau megis nifer y bobol sy’n profi’n bositif am y coronafeirws bob dydd, y gyfradd bositif, a nifer y bobol sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty er mwyn deall pa mor llwyddiannus mae’r cyfnod clo wedi bod.

“Mae gennym nifer o bethau byddwn yn eu defnyddio er mwyn gweld effaith y bythefnos hon o gyfyngiadau sylweddol ar fywydau personol a busnes yng Nghymru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu symud tuag at weddill yr Hydref a’r Gaeaf mewn safle lle nad yw’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn perygl o fod dan ormod o bwysau,” meddai.