Mae un achos positif o’r coronafeirws wedi cael ei gadarnhau yn Ysgol Rhyd y Llan ar Ynys Môn.
Cafodd rhieni a staff eu hysbysu ddoe (dydd Llun, Hydref 19) ac maen nhw wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Does dim tystiolaeth i awgrymu bod ymlediad o fewn y sefydliad, a bydd yr ysgol yn parhau ar agor ar gyfer y dosbarthiadau sydd heb eu heffeithio.
Mae 11 o ysgolion ar Ynys Môn bellach wedi cofnodi achosion o’r coronafeirws.
Cafodd achosion eu cadarnhau yn Ysgol Corn Hir, Ysgol y Borth, Ysgol Llanfechell, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Uwchradd Llangefni, Ysgol Gynradd Talwrn, Ysgol Cybi, Ysgol Sefydledig Caergeiliog, ac Ysgol Llanfairpwll.
Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd (GIG Cymru) wedi derbyn manylion yr achos positif ac mae rhai disgyblion ac aelodau staff wedi derbyn cyngor i hunanynysu am 14 diwrnod.
Ymateb
“Mae cyfraddau Coronafeirws yn cynyddu ar yr Ynys ar hyn o bryd ac yn anffodus rydym yn gweld mwy a mwy o’r achosion yma mewn ysgolion,” meddai Annwen Morgan, prif weithredwr Cyngor Môn.
“Lles ein disgyblion, staff a’r gymuned ehangach yw ein prif flaenoriaeth, a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn Ysgol Rhyd y Llan, yn ogystal ag ysgolion eraill sydd wedi’u heffeithio, er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.
“Mae Canolfan brofi coronafeirws nawr ar gael yn Llangefni a byddwn yn annog unrhyw un sydd yn dangos symptomau i fynd am brawf cyn gynted â phosib.
“Os ydych yn mynd am brawf, mae’n hanfodol bod pawb yn eich cartref yn hunan-ynysu hyd nes cewch ganlyniad.”