Mae dau achos o’r coronafeirws wedi eu cadarnhau yn Ysgol Llanfairpwll ar Ynys Môn.
Cafodd rhieni a staff eu hysbysu ddydd Sul (Hydref 18) ac maen nhw wedi derbyn cyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd Ysgol Llanfairpwll yn parhau ar agor ar gyfer y dosbarthiadau sydd heb eu heffeithio.
Daw hyn ar ôl i achosion gael eu cadarnhau yn Ysgol Corn Hir, Ysgol y Borth, Ysgol Llanfechell, Ysgol Gymuned y Fali, Ysgol Uwchradd Llangefni, Ysgol Gynradd Talwrn, Ysgol Cybi, ac Ysgol Sefydledig Caergeiliog.
Mae gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu’r Gwasanaeth Iechyd (GIG Cymru) wedi derbyn manylion yr achos positif ac mae rhai disgyblion ac aelodau staff wedi derbyn cyngor i hunan-ynysu am 14 diwrnod.
“Mae cyfraddau coronafeirws yn cynyddu ar yr ynys ar hyn o bryd ac yn anffodus rydym yn gweld mwy a mwy o’r achosion yma mewn ysgolion,” meddai Prif Weithredwr Cyngor Môn, Annwen Morgan.
“Mae’n rhaid i ni barhau i frwydro yn erbyn y feirws ofnadwy yma. Mae’n hanfodol ein bod ni gyd yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru drwy’r adeg.”
Ychwanegodd: “Lles ein disgyblion, staff a’r gymuned ehangach yw ein prif flaenoriaeth, a byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn Ysgol Llanfairpwll, yn ogystal ag ysgolion eraill sydd wedi’u heffeithio, er mwyn gweld os oes angen gweithredu pellach.”
Cyngor Sir Ddinbych yn cadarnhau achosion mewn dwy ysgol
Mae Cyngor Sir Ddinbych hefyd wedi cadarnhau bydd 29 disgybl ac un aelod o staff yn Ysgol Dinas Brân, Llangollen yn hunan-ynysu ar ôl i achos o’r coronafeirws gael ei gadarnhau yn yr ysgol.
Bydd 48 disgybl a dau aelod o staff o Ysgol Uwchradd Prestatyn hefyd yn hunan-ynysu yn dilyn cadarnhad o achos o’r coronafeirws.
Bydd dysgu i ddisgyblion ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Uwchradd Prestatyn yn cael ei wneud o bell yn sgil yr achosion.
Mae’r ddwy ysgol yn dal i fod ar agor i weddill y disgyblion ac aelodau staff.
Dywedodd yr ysgol ei bod yn gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Lleol a gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu’r GIG “er mwyn sicrhau bod yr holl fesurau priodol ar waith i ddiogelu myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach”.