Mae Llywodraeth yr Alban wedi beirniadu Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ganslo trafodaethau ynglyn a beth fydd yn disodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd ar ôl Brexit.

Mae Gweinidog Buddsoddiad yr Alban, Ivan McKee, wedi ysgrifennu at Weinidog Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol y Deyrnas Unedig, Luke Hall, yn dweud ei fod yn siomedig bod cyfarfod rhwng y llywodraethau wedi cael ei ganslo.

Roedd disgwyl i’r ddwy Lywodraeth drafod cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i leihau anghydraddoldeb economaidd rhwng gwahanol ardaloedd.

Yn ôl Llywodraeth yr Alban, mae’r cyllid wedi bod yn werth £780miliwn i’r Alban rhwng 2014-2020.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd cronfa newydd yn cymryd lle’r cyllid ar ôl Brexit.

“Mater o frys”

Yn ei lythyr, mae Ivan Mckee wedi galw am adfer y trafodaethau “fel mater o frys.”

Dywedodd ei bod hi’n “annerbyniol bod ein cyfarfod wedi cael ei ganslo heb opsiwn i ail-drefnu.

“Rydym wedi bod yn glir ers dechrau’r broses hon, bod yn rhaid i’r cyfrifoldeb dros gyllid newydd fod yn ddatganoledig fel bod Llywodraeth yr Alban yn gallu ei wario mewn ffordd sy’n gweddu anghenion pobol, cymunedau a busnesau’r Alban.”

Ychwanegodd bod “anwybyddu Llywodraeth yr Alban a’r gwledydd datganoledig eraill” yn wrthgynhyrchiol, gan alw am “drafodaethau cyson a pharchus rhwng y pedair gwlad.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “Rydym yn croesawu brwdfrydedd Llywodraeth yr Alban i weithio â ni ar y Shared Prosperity Fund, sy’n golygu buddsoddiad ar draws yr Alban gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.”