Mae angen “gweithredu pendant” ym Manceinion Fwyaf, yn ol Robert Jenrick, Ysgrifennydd Cymunedau Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Daw hyn ar ôl i arweinwyr yr ardal wrthod symud y rhanbarth i Haen 3, sef yr haen uchaf o gyfyngiadau coronafeirws.

Derbyniodd Dinas Lerpwl becyn cymorth gwerth £44 miliwn fel rhan o gyflwyno mesurau Haen 3, ond mae Maer Manceinion Fwyaf, Andy Burnham, wedi pwyso am bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin i geisio dod i gytundeb.

Mae hefyd wedi galw am fwy o gefnogaeth – gan gynnwys cynllun ffyrlo sy’n talu 80% o gyflogau gweithwyr yr effeithiwyd arnynt.

‘Cymryd camau pendant’

Eglurodd Robert Jenrick fod ystod o gefnogaeth eisoes wedi’i chynnig i’r rhanbarth, gan gynnwys “mwy o adnoddau ar gyfer cynghorau lleol”, mwy o gefnogaeth olrhain cyswllt a defnydd posib o’r fyddin i gynorthwyo awdurdodau lleol.

“Bellach mae angen i ni ddod â’r sgyrsiau hyn i gasgliad a chymryd camau pendant,” meddai wrth BBC Radio 4.

“Rydyn ni wedi nodi’r hyn sy’n briodol yn ein barn ni ond rydyn ni hefyd yn barod i barhau â thrafodaethau gydag arweinwyr y cyngor a’r maer ym Manceinion Fwyaf heddiw i weld a allwn ni ddod i gytundeb.”

Dywedodd arweinydd cyngor Oldham, Sean Fielding, un o arweinwyr awdurdodau lleol ym Manceinion Fwyaf, nad oedd y ffrae yn ymwneud ag arian yn unig ond a fyddai ‘categori uchel iawn’ yn cael effaith ar nifer yr achosion coronafeirws mewn gwirionedd.

“Mae hyn yn ymwneud â gwneud y peth iawn i ddod â’r firws yn ôl o dan reolaeth a lleddfu pwysau ar y GIG”, meddai.

“Ond os yw’r Llywodraeth am orfodi mesurau ar Fanceinion Fwyaf a dydy’r cynghorwyr gwyddonol ddim yn cefnogi hynny, yna ni fyddwn yn caniatáu i’n preswylwyr a’n busnesau gael eu gadael yn waeth yn ariannol trwy orfodi’r mesurau hyn.”