Fe fu cynnydd o 94% yn nifer y marwolaethau oherwydd dementia a chlefyd Alzheimer’s mewn cartrefi preifat yng Nghymru yn ystod y coronafeirws, gyda 133 o farwolaethau ychwanegol, yn ol yr ystadegau diweddaraf.
Yn Lloegr roedd y ffigwr wedi codi 79%. Cafodd 2,095 o farwolaethau ychwanegol oherwydd y cyflyrau yma eu cofnodi yn Lloegr rhwng Mawrth 14 a Medi 11, yn ol y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).
Mae’r cynnydd o 94% yng Nghymru yn cymharu â’r ffigyrau a gofnodwyd yn yr un cyfnod dros y pum mlynedd ddiwethaf.
Mae’r ystadegau’n dangos bod marwolaethau o bob math o afiechydon wedi cynyddu mewn cartrefi preifat yng Nghymru a Lloegr ers dechrau’r pandemig.
Yng Nghymru, mae marwolaethau o glefyd y galon ymysg dynion wedi codi 23% ar gyfartaledd, tra bod marwolaethau o ganser y brostad wedi codi 75% a chanser y coluddyn wedi cynyddu 52%.
Ymysg merched, mae’r nifer sydd wedi marw o ganlyniad i ganser y fron wedi cynyddu 28%.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol nad oedd y rhan fwyaf o’r marwolaethau ychwanegol mewn cartrefi preifat, yn gysylltiedig â’r coronafeirws.
O’r 1,624 o farwolaethau ychwanegol gafodd eu cofrestru hyd at Fedi 11 mewn cartrefi preifat yng Nghymru, roedd 134 (8%) yn gysylltiedig â’r coronafeirws, tra bod 1,490 (92%) yn gysylltiedig ag afiechydon eraill.
Dywedodd Sarah Caul, o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Tra bod nifer y marwolaethau mewn ysbytai a chartrefi gofal wedi gostwng o dan y cyfartaledd dros bum mlynedd ers y cyfnod pan oedd y pandemig ar ei anterth, rydyn ni wedi gweld nifer y marwolaethau mewn cartrefi preifat yn llawer uwch na’r cyfartaledd.
“Tra bod nifer y marwolaeth oherwydd clefyd y galon yn is na’r cyfartaledd yn yr ysbyty, maen nhw’n uwch na’r cyfartaledd yn y cartref.”
Fe awgrymodd bod pobl un ai yn amharod i fynd i’r ysbyty, wedi cael eu hannog i beidio mynd i’r ysbyty neu oherwydd bod gwasanaethau wedi eu hamharu.