Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd clo cenedlaethol dros dro yn cael ei gyflwyno yng Nghymru o ddydd Gwener, Hydref 23.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg y prynhawn yma (Hydref 19) eglurodd y byddai’r cyfnod clo byr a llym – fire breaker – yn ceisio rheoli lledaeniad y coronafeirws a lleihau’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd dros gyfnod y gaeaf.

Bydd y cyfnod yn ymestyn o 6 o’r gloch nos Wener, Hydref 23, hyd at ddydd Llun, Tachwedd 9, ac mae’r prif fanylion fel a ganlyn:

  • Mae gofyn i bawb aros adref yn ystod y cyfnod yma, a gweithio o adref lle mae’n bosib.
  • Ni fydd hawl gan bobol ymweld â chartrefi eraill na chyfarfod â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw, o dan do nac yn yr awyr agored
  • Ni fydd hawl gan bobol ymgynnull yn yr awyr agored, er enghraifft i ddathlu Calan Gaeaf neu noson tân gwyllt.
  • Rhaid i bob busnes heblaw rhai hanfodol gau.
  • Bydd meithrinfeydd yn parhau ar agor a bydd ysgolion cynradd yn ailagor ar ôl gwyliau hanner tymor.
  • Bydd disgyblion uwchradd blynyddoedd 7 ac 8 yn cael dychwelyd i’r ysgol ar ôl yr hanner tymor – rhaid i flynyddoedd eraill dderbyn addysg ar-lein.
  • Bydd prifysgolion yn parhau i ddarparu cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Eglurodd Mark Drakeford y byddai’r cyfnod clo yn dod i ben ar Dachwedd 9 os yw achosion wedi gostwng neu beidio.

“Mae’n ddigon posib bydd yr achosion dal ar gynnydd ar ddiwedd y clo dros dro… yn y bythefnos wedi’r cyfnod bydd achosion yn dechrau gostwng”, meddai.

‘Dim hawl cwrdd ag unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi’

Dywedodd y Prif Weinidog na fydd hawl i aelwydydd gwrdd â phobl o gartrefi eraill o gwbl yn ystod y cyfnod clo.

“Mae coronafeirws yn lledaenu pan fo pobol mewn cyswllt agos â’i gilydd, yn enwedig dan do,” meddai.

“I atal y lledaeniad ni fydd modd cwrdd ag unrhyw un sydd ddim yn byw gyda chi am y pythefnos yma, boed hynny tu mewn neu’r tu allan.”

Mae eithriad i bobol sy’n byw ar eu pen eu hunain a rhieni sengl.

Pwysleisiodd Mark Drakeford hefyd fod cyfrifoldeb ar bawb i ddilyn y rheolau yn hytrach na dibynnu ar yr heddlu.

“Os fyddwn ni’n dibynnu ar yr heddlu i sicrhau fod pobol yn dilyn y rheolau yn y cyfnod yma, yna fe fydd y mesurau yn methu.

“Mae rhaid i bawb gydymffurfio â’r rheolau ac i chwarae eu rhan i sicrhau bod y mesurau yma yn llwyddo,” meddai.

Cronfa Gwydnwch Economaidd

Dywedodd Mark Drakeford fod Cronfa Gwydnwch Economaidd (ERF) ychwanegol o bron i £300m wedi’i chreu.

Dywedodd fod y Llywodraeth wedi rhoi £150m ychwanegol i gefnogi busnesau sy’n cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan y cyfyngiadau.

Bydd busnesau bach yn cael taliad o £1,000.

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch bach a chanolig sy’n gorfod cau yn derbyn taliad o hyd at £5,000.

“Rydyn ni’n gwybod y bydd angen cefnogaeth ar fusnesau yn gyflym”, meddai.

“Bydd y gronfa yn agor yn ystod wythnos gyntaf y clo dros dro a byddwn ni’n gweithio i ddyrannu’r arian cyn gynted ag y gallwn.”

Bydd pob busnes sy’n gorfod cau hefyd yn gallu cael cefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig – trwy’r Cynllun Cadw Swyddi presennol neu’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod wedi ysgrifennu at y Canghellor i ofyn iddo roi mynediad cynnar i fusnesau Cymru i’r Cynllun Cymorth Swyddi estynedig newydd o ddydd Gwener.

Byddai hyn yn cael gwared ar yr angen i fusnesau ‘jyglo’r Cynllun Cadw Swyddi a’r Cynllun Cymorth Swyddi’ yn ystod y clo dros dro, meddai.

Trafodaethau dros y penwythnos

Cyn dod i benderfyniad bu gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cynnal nifer o gyfarfodydd gydag uwch-swyddogion, gwyddonwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus dros y penwythnos.

Eglurodd Mark Drakeford fod y “trafodaethau wedi dangos nad oes unrhyw ddewisiadau hawdd o’n blaenau”.

Daeth y cabinet ynghyd fore dydd Llun (Hydref 19) i drafod y manylion terfynol.

Wrth ateb cwestiwn am sut daeth peth gwybodaeth allan dros y penwythnos o flaen y cyhoeddiad, dywedodd Mr Drakeford mai “dyna’r risg yr ydych yn ei gymryd” o drafod gyda phobl o flaen llaw a bod yn well ganddo wneud hynny na pheidio, er ei fod yn siomedig fod pobl wedi datgelu’r wybodaeth dros y penwythnos.

Beirnadu Boris ar CNN

Yn ddiweddarach, ar CNN, dywedodd Mark Drakeford fod Sage (y Scientific Advisory Group for Emergencies) wedi cynghori Llywodraeth y DU bedair wythnos yn ôl mai “cyfnod byr, miniog” i dorri’r cylchedau oedd y fordd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol o ymladd y feirws.

Dywedodd Mr Drakeford wrth CNN: “Gofynnais i’r Prif Weinidog am gyfarfod Cobra, lle gallem edrych gyda’n gilydd ar y cyngor hwnnw. Mae arnaf ofn nad ydym wedi cael un.

“Os wnawn ni ddim byd, yna bydd ein gwasanaeth iechyd yn cael ei lethu ac ni fydd busnesau’n gallu gweithredu oherwydd bydd nifer y bobl sy’n dioddef o’r feirws a’r angen i hunanynysu yn golygu na all busnesau weithredu.

“Rydym yn gwneud y dewis hwn oherwydd dyma’r un sy’n cael ei argymell i ni fel yr un mwyaf effeithiol,” meddai Mr Drakeford wrth CNN.

“Rwy’n dychmygu – ond nid fy lle i [yw penderfynu hyn] – ei bod hi’n rhy hwyr i wneud hyn yn Lloegr i ymgorffori’r wythnos hanner tymor.

“Cawsom ein gorfodi i raddau helaeth i sicrhau y byddai un wythnos o’r pythefnos yn ymgorffori hanner tymor yma yng Nghymru gan ein bod yn rhoi’r brif flaenoriaeth i gadw ysgolion ar agor gymaint ag y gallwn.”

Ceidwadwyr yn pryderu am gloeon rheolaidd

Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru, mae Paul Davies AoS, Arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru, wedi dweud nad yw’r clo gymesur ac mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn “agored a thryloyw” o ran y dystiolaeth sy’n cefnogi’r cam:

“Yn anffodus, mae’r Prif Weinidog wedi methu â chael cefnogaeth y cyhoedd i’r ail gyfnod clo hwn ledled Cymru, gan fethu â bod yn agored ac yn dryloyw ynglŷn â’r dystiolaeth i gyfiawnhau’r clo hwn, a beth fydd yn ei olygu ar gyfer y dyfodol”, meddai Paul Davies.

“Nid egwyl o bythefnos yw hwn i ddatrys y pandemig – mae’n debygol y byddwn yn gweld cloeon yn rheolaidd dros weddill y flwyddyn.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn glir pa gamau y maent yn eu cymryd yn ystod y cyfnod clo i atal mwy o gloi yng Nghymru fydd yn cael effaith sylweddol ar fywydau a bywoliaeth pobol.”

Plaid Cymru: ‘Dewch at eich gilydd’

Yn y cyfamser mae Arweinydd Plaid Cymru wedi annog y genedl i gydweithio ac mae wedi tynnu sylw eto at wella’r system olrhain cyswllt:

“Dewis olaf yw’r clo dros dro a dim ond mewn argyfwng y dylid ei ddefnyddio. Rydyn ni nawr mewn argyfwng”, meddai Adam Price.

“Rhaid defnyddio’r amser i adeiladu system olrhain cyswllt ac ynysu hydwyth er mwyn atal bod yn y sefyllfa yr ydym ar hyn o bryd lle mae niferoedd yr achosion wedi codi i’r pwynt lle gallant or-lethu’r gwasanaeth iechyd.

“Mae’n bryd i ni fel cenedl ddod at ein gilydd unwaith eto – fel cymunedau, fel y Llywodraeth ac fel yr Wrthblaid – a gweithio gyda’n gilydd i amddiffyn ein GIG ac achub bywydau.”

Yn siarad yn ddiweddarach ar CNN, ymatebodd Mr Drakeford, o ran system olrhain, ei fod yn credu bod gwasanaeth olrhain cyswllt Cymru yn perfformio’n “hynod o dda” ac yn cyrraedd 90% neu fwy o achosion a’u cysylltiadau.

“Byddwn yn defnyddio’r pythefnos i recriwtio mwy o bobl iddo, i symleiddio rhai o’r systemau sydd ynddo, ac i ddelio â’r rhai o’r achosion sydd wedi cronni,” meddai.