Mae llythyr wedi dod i’r amlwg sy’n manylu, ymddengys, ar gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ddydd Llun am gyfnod clo newydd o bythefnos i ‘dorri cylch’ y coronafeirws.

Yn ôl y llythyr gan gyfarwyddwr CPT Cymru – y Confederation of Passenger Transport – bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi y bydd y cyfnod yn ymestyn o 6 o’r gloch nos Wener nesaf (23 Hydref) hyd 0001 fore Llun 9 Tachwedd, gyda rhai ysgolion yn ailagor ddydd Llun 2 Tachwedd.

Mae disgwyl y bydd yn rhaid i bob busnes heblaw rhai hanfodol gau.

Cafodd y llythyr ei aildrydar gan Lefarydd y Blaid Geidwadol ar Iechyd, Andrew RT Davies, sy’n llym ei feirniadaeth o’r Llywodraeth.

“Beth yw diben Senedd Cymru?” meddai. “Mae angen i’r Llywydd lusgo’r clowns hyn i mewn ddydd Llun.”