Mae Heddlu De Cymru wedi lansio ymchwiliad llofruddiaeth ar ôl marwolaeth dyn 54 oed yn ardal Llaneirwg o Gaerdydd.

Cafodd yr heddlu eu galw i Cypress Crescent neithiwr yn dilyn adroddiadau o ymosodiad difrifol yno. Roedd y dyn wedi marw yn y fan a’r lle, a chafodd dynes hefyd ei hanafu’n ddifrifol yn y digwyddiad. Aed â hi i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.

Cafodd dyn 21 oed ei arestio ar Ffordd Casnewydd yn fuan wedi i’r digwyddiad gael ei riportio i’r heddlu ac mae’n dal yn y ddalfa.

Meddai lllefarydd ar ran yr heddlu:

“Nid yw ditectifs yn chwilio am neb arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad ar hyn o bryd, ond maen nhw’n apelio am unrhyw dystion nad ydyn nhw wedi siarad gyda’r heddlu i ddod ymlaen.”