‘Unoliaethwyr honedig’ sy’n peri’r bygythiad mwyaf i ddyfodol y Deyrnas Unedig, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Mae Mark Drakeford yn cyhuddo llywodraeth Prydain o esgeuluso’r undeb yn eu hagweddau at Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon – ac yn galw am fwy o drafodaethau rhwng llywodraethau’r pedair gwlad.
Roedd yn arbennig o feirniadol o’r ffaith nad yw Cyd-bwyllgor y Gweinidogion – sy’n cynnwys Prif Weinidog Prydain a phrif weinidogion tair gwlad ddatganoledig – wedi cyfarfod ddim un waith ers i Boris Johnson ddod yn Brif Weinidog.
“Mae’r Deyrnas Unedig wedi gweithredu’n gwbl ddall a diamcan drwy gydol yr argyfwng yma,” meddai, mewn trafodaeth gyhoeddus ar-lein gyda’r cyn-brif weinidog Gordon Brown y bore yma.
“Mae’r Prif Weinidog yn ein galw ni at ein gilydd ar hap, ar fyr rybudd heb fawr ddim paratoi, ac wedyn does dim yn digwydd am wythnos ar ôl wythnos.
“Dw i wedi galw’n gyson am gylch rheolaidd o gyfarfodydd rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig. Mae’r gwaith o gynnal y Deyrnas Unedig wedi cael ei esgeuluso gymaint gan y Llywodraeth yma.
“Dw i’n credu o ddifrif fod y bygythiad mwyaf i’r undeb yn dod oddi wrth unoliaethwyr honedig nad ydyn nhw’n fodlon rhoi’r amser, yr ymdrech a’r gwaith caled sydd ei angen er mwyn dod â’r Deyrnas Unedig at ei gilydd.”