Ar ôl bod ar gau am dros flwyddyn i’w hatgyweirio a’i hadfer, mae un o eglwysi hanesyddol Cymru wedi ailagor ar ei newydd wedd i addolwyr ac ymwelwyr.

Cafodd eglwys ganoloesol St Grwst yn Llanrwst ei chodi yn 1470 ac ymhlith ei phrif drysorau mae archgarreg Llywelyn Fawr. Gyda grant o Gronfa Dreftadaeth y Loteri mae prosiect gwerth £1.2 miliwn wedi gweddnewid ei thu mewn a chreu lle agored, hyblyg a fydd ar gael i’r holl gymuned.

Gydag argyfwng y pandemig eisoes wedi ychwanegu chwe mis at amser cwblhau’r gwaith, mae cyfyngiadau’r cyfnod cloi yn sir Conwy hefyd yn creu rhwystr pellach.

I oresgyn hyn, mae swyddogion yr eglwys wedi trefnu taith rithiol o’r eglwys a’r fynwent er mwyn galluogi pobl i weld y gwaith adfer sydd wedi ei wneud. Mae’r lluniau 360 gradd yn rhoi cyfle i bobl weld yr eglwys yn ei holl fanylder ar y we.

“Mae’r Daith Rithiol newydd yn wych,” meddai’r Parch Sarah Hildrech-Osborn, rheithor yr eglwys. “Mae’r lluniau o’r eglwys a Chapel Gwydir yn drawiadol iawn, ac rydym wrth ein bodd gyda’r gwaith.”

Mae’r daith rithiol i’w gweld yma.