Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o amharch a thrahauster ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod sefydliadau wedi cael eu briffio ynghylch manylion cyfnod clo newydd.
Bydd y cyfnod clo i “dorri’r cylch” yn dod i rym ddydd Gwener (Hydref 23), ac yn para pythefnos, yn ôl llythyr sydd wedi cael ei anfon a’i gyhoeddi ar Twitter.
Mae disgwyl i’r cyhoeddiad swyddogol gael ei wneud yfory (dydd Llun, Hydref 19).
Llythyr
Yn ôl y llythyr gan gyfarwyddwr CPT Cymru – y Confederation of Passenger Transport – bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi y bydd y cyfnod yn ymestyn o 6 o’r gloch nos Wener nesaf (23 Hydref) hyd 0001 fore Llun 9 Tachwedd, gyda rhai ysgolion yn ailagor ddydd Llun 2 Tachwedd.
Mae disgwyl y bydd yn rhaid i bob busnes heblaw rhai hanfodol gau.
Cafodd y llythyr ei aildrydar gan Lefarydd y Blaid Geidwadol ar Iechyd, Andrew RT Davies, sy’n llym ei feirniadaeth o’r Llywodraeth.
“Beth yw diben Senedd Cymru?” meddai. “Mae angen i’r Llywydd lusgo’r clowns hyn i mewn ddydd Llun.”
‘Dim diben oedi cyn cyhoeddi’
“Roedd y prif weinidog [Mark Drakeford] yn gwybod am hyn ddoe, ac er ein bod ni i gyd yn amau y byddai hyn yn digwydd, doedd dim diben oedi cyn ei gyhoeddi,” meddai Andrew RT Davies.
“Yn hytrach, fe ddewisodd e osgoi Senedd Cymru ac Aelodau o’r tu allan i’w blaid, a briffio sefydliadau allanol yn y lle cyntaf amdano fe.
“Mae’n dangos amharch anhygoel tuag at sefydliad Senedd Cymru, y pleidleiswyr, ac mae’n dangos y trahauster llwyr a syfrdanol rydyn ni wedi dod i’w ddisgwyl gan y prif weinidog a’r Blaid Lafur.
“Yn waeth na hynny, maen nhw wedi camarwain y cyhoedd ac Aelodau o Senedd Cymru, mewn gwirionedd, drwy ddweud ddoe nad oedd ’dim penderfyniadau wedi cael eu gwneud’ pan ei bod yn amlwg eu bod nhw.
“Mae dirmyg Llafur tuag at ddemocratiaeth ac etholwyr Cymru’n syfrdanol, a dw i wedi ysgrifennu at y Llywydd i fynegi ein pryderon dwys ynghylch gweithredoedd y prif weindiog.”
Llythyr Darren Millar
Mewn ail lythyr, y tro hwn gan Darren Millar at y Llywydd Elin Jones, mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw am “sesiwn frys” yn y Senedd i drafod y mater.
“Mae goblygiadau’r llythyr yn ddifrifol,” meddai am y llythyr yn cyhoeddi manylion am y cyfnod clo “torri’r cylch”.
“Mae’n awgrymu bod y Prif Weinidog, efallai, wedi camarwain pobol Cymru’n fwriadol yn ystod sesiwn briffio coronafeirws ddoe ac efallai bod cyhoeddiad sylweddol ynghylch cyfnod clo cenedlaethol wedi cael ei wneud i weithredwyr trafnidiaeth cyn hysbysu Aelodau o’r Senedd.
“Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac ar ran Grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, gofynnaf i chi alw sesiwn frys o’r Senedd er mwyn sicrhau bod craffu cyhoeddus brys a manwl ar y mater pwysig hwn.”