Mae hysbyseb swydd gan feddygfa Rhydbach yn ardal Botwnnog ger Pwllheli yn dweud nad yw’r Gymraeg yn hanfodol “gan ein bod ni hefyd yn siarad Saesneg”.

Mae’r hysbyseb yn gofyn am bartner newydd i’r feddygfa o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, ond fe ddywed fod y feddygfa’n “hapus i aros am yr ymgeisydd iawn”.

“Bywyd yn y ddinas neu’r dref yn eich diflasu chi neu ffansïo golygfa newydd?” meddai

“Ydy eich cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn anghyfartal?

“Ydych chi’n chwilio am ddechreuad newydd sy’n cynnwys aer ffres?

“Peidiwch ag edrych dim pellach.”

Pwy yw’r feddygfa?

Mae’r hysbyseb wedyn yn egluro mai meddygfa sy’n hyfforddi is-raddedigion sydd ag uchelgais i hyfforddi cofrestryddion yw hi.

Mae’n disgrifio ei lleoliad fel “hafan wledig Botwnnog ar Benrhyn Llyn hardd yng Ngogledd Cymru”.

“Mae hi 15 munud o’r môr a’i hamryw draethau, a 30 munud o fynyddoedd godidog Parc Cenedlaethol Eryri.

“Mae trefi byrlymus Caernarfon a Bangor dafliad carreg i ffwrdd.

“Dydy siarad Cymraeg ddim yn hanfodol, gan ein bod ni hefyd yn siarad Saesneg.

“Trefniant rhoi cynnig cyn prynu i’r ymgeisydd iawn,” meddai wedyn, gan wahodd ymgeiswyr i drefnu ymweliad.

Mae’n nodi Rhagfyr 14 fel dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr.