Cafodd dyn 30 oed a dynes 58 oed eu harestio ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 17) am eu rhan mewn protest ym Mhenalun yn Sir Benfro.

Fe wnaeth oddeutu 55 o bobol asgell dde ymgynnull ger y safle lle mae ffoaduriaid bellach yn cael eu cartrefu ger Dinbych-y-Pysgod.

Cafodd y ddau eu harestio am geisio atal yr heddlu rhag gwneud eu gwaith, a chafodd y dyn ei arestio hefyd am drosedd hiliol.

Mae’r ddau yn cael eu cadw yn y ddalfa.